Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu Prisiau Casglu Gwastraff Gardd

Published: 17/01/2019

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi trafod effaith y gwasanaeth casglu gwastraff gardd y codir tâl amdano.

 

Cefnogodd y Cabinet barhad y polisi codi tal ar gyfer 2019 a thu hwnt a bod y tâl presennol  o £30 fesul bin yn cael ei rewi ar gyfer 2019.

Cyflwynwyd y taliadau newydd ym mis Ebrill 2018 er mwyn helpu’r Cyngor i sicrhau yr adenillir yr holl gostau am y gwasanaeth hwn sy’n cael ei ddarparu yn ôl disgresiwn y Cyngor.

Ym mlwyddyn gyntaf y broses danysgrifio gwerthwyd 33,871 o hawlenni, sy’n golygu bod 40% o'r holl breswylwyr a dros hanner y rhai hynny a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth yn y gorffennol wedi tanysgrifio ar gyfer casgliad o leiaf un bin o dan y gwasanaeth newydd. 

Meddai Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Roedd nifer y tanysgrifiadau ar gyfer y gwasanaeth ychydig yn fwy na’n targed ariannol, sy’n golygu y gallwn o bosibl edrych ar systemau seiliedig ar dechnoleg a fydd yn cynnig dull mwy effeithiol o gofrestru bin gydag eiddo. Bydd hyn yn cyflymu’r broses o reoli a  thalu ac yn dileu’r angen am ddosbarthu sticeri bob blwyddyn.  Rydym yn argymell fod opsiynau ar gyfer hyn yn cael eu hystyried a’u cyflwyno mewn pryd ar gyfer tymor 2020.”

Cynnig arall yw peidio ymestyn y gwasanaeth i un a gynigir gydol y flwyddyn.  Ychydig iawn o alw a fu am y gwasanaeth rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror. Fodd bynnag fe fyddwn mewn blynyddoedd i ddod yn parhau â'r casgliadau gwastraff gardd drwodd i ddechrau cyfnod y Nadolig er mwyn i breswylwyr gael gwared ar gwymp olaf y dail. Bydd stopio'r gwasanaeth ar yr adeg yma yn galluogi casglu mwy o'r deunydd ailgylchu sy'n pentyrru dros y Nadolig, sydd yn un o'n adegau prysuraf o'r flwyddyn. Mae pob Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yn derbyn gwastraff gardd drwy gydol o flwyddyn ac mae cyngor am gompostio yn y cartref ar gael ar wefan y Cyngor.  

Argymhellir hefyd, ar ôl adolygu’r mater yn ofalus, na fydd gostyngiad pris yn cael ei gynnig i breswylwyr sy'n derbyn budd-daliadau.  Byddai’n anodd rhoi’r fath ostyngiad heb drosglwyddo'r costau i drigolion eraill nad ydynt yn gymwys a byddai rheoli'r fath system yn gostus ac yn draul ar amser gan y byddai'n rhaid cynnal gwiriadau a monitro unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau.  Mae traean o’r rhai sydd wedi dewis derbyn y gwasanaeth yn rhan o’r Gynllun Gostyngiad ar Dreth y Cyngor.