Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Ysgol Uwchradd Cei Connah  - diweddariad

Published: 18/01/2019

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn edrych ar adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd Cam 2 prosiect Ysgolion yr 21 Ganrif yn Ysgol Uwchradd Cei Connah.

Gofynnir iddynt hefyd gymeradwyo gwariant ychwanegol sy'n angenrheidiol i gwblhau'r gwaith.

Mae angen £300k arall ar ben yr amcangyfrif gwreiddiol o £4m.  Mae hyn wedi digwydd am amryw o resymau, gan gynnwys:

  • Cynnydd yng nghost deunyddiau adeiladu yn sgil ansicrwydd ynghylch Brexit 
  • Rhagor o waith adnewyddu yn y bloc chwaraeon wedi ei gynnwys ers yr amcangyfrif  gwreiddiol.  Yn wreiddiol roedd y rhan fwyaf o’r bloc chwaraeon i gael ei adnewyddu ond heb gynnwys rhai ardaloedd bach a mannau mynd a dod.   Byddai’r cynnyrch terfynol yn well pe bai’r mannau hyn yn cael eu cynnwys hefyd.
  • Ar ôl ail-archwilio to’r neuadd chwaraeon, gwelwyd fod angen gwaith ychwanegol ar hwn

Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Gallem leihau cwmpas Cam 2 er mwyn ei gadw o fewn y gyllideb a gymeradwywyd.  Fodd bynnag, er mwyn sicrhau’r cyfleusterau gorau ar gyfer ein myfyrwyr, rwan ac yn y dyfodol, dylem wneud popeth bosibl i ddod o hyd i’r £300,000 ychwanegol.  Efallai bod modd gwneud hyn drwy ailgyfeirio arian o rannau eraill o'r rhaglen neu fanteisio ar arbedion dros ben a wnaed ar brosiectau eraill."