Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllideb Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 

Published: 18/01/2019

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint yn ystyried ac yn rhoi sylwadau ar y Cyfrif Refeniw Tai drafft ar gyfer 2019/20 a chrynodeb o’r Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai pan fydd yn cyfarfod ddydd Mercher, 23 Ionawr.

Mae’r Cynllun Busnes 30 mlynedd Cyfrif Refeniw Tai yn cynnwys y rhaglen adeiladu tai cyngor uchelgeisiol, trwsio a chynnal a chadw cartrefi, gwella’r stoc a gwelliannau amgylcheddol, rheoli cymdogaethau gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofalu am ystadau, casglu incwm a chyfranogiad y cwsmeriaid ar gyfer 7,300 o eiddo’r Cyngor. 

Mae’r Cyngor yn gorfod cyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer lefelau rhent tai cyngor dros amser, ac mae'r fformiwla ar gyfer gosod rhenti bob blwyddyn hefyd yn cael ei phennu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r modd mae rhenti yn cael eu cyfrif ar hyn o bryd (Mynegai Prisiau Defnyddwyr “CPI” + 1.5% + hyd at £2 yr wythnos) yn dod i ben ar 31 Mawrth 2019.  Ar gyfer 2019/20 yn unig, bydd polisi dros dro yn berthnasol fydd yn gweld ymgodiad blynyddol wedi’i osod ar CPI yn unig – e.e. 2.4%.  Hefyd gall Landlordiaid Cymdeithasol ond rhoi “hyd at £2 yr wythnos” os yw’r rhent wythnosol cyfartalog yn is na’u Band Rhent Targed.

Bydd hwn am flwyddyn nes bydd yr Adolygiad o Gyflenwad Tai Fforddiadwy a gynhelir gan Lywodraeth Cymru wedi’i gwblhau.

Mae disgwyl i renti garejis gynyddu £1 yr wythnos ac mae cynnig i rent am ddarn o dir ar gyfer garej gynyddu £0.20 yr wythnos.

Meddai Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

“Mae £22.9 miliwn wedi’i gynnwys yn Rhaglen Fuddsoddi Asedau a SATC ar gyfer 2019/20. Mae’n cynnwys darpariaeth ar gyfer gwaith mewnol (ceginau ac ystafelloedd ymolchi), gwaith allanol (ffenestri, drysau, toeau, cwterydd, ac ati), rhaglenni amgylcheddol, addasiadau i bobl anabl a gwaith i arbed ynni a chaffaeliad strategol. 

“Yn ogystal, mae yna £11.3miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau adeiladu tai’r Cyngor i sicrhau bod mwy o dai cyngor yn cael eu hadeiladu yn ystod 2019/20.”