Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dydd Sadwrn Busnesau Bach
  		Published: 24/11/2014
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach y DU, sef ymgyrch 
genedlaethol i ddathlu ac annog pobl i siopa mewn siopau lleol annibynnol.
Anogir siopwyr yn Sir y Fflint i gefnogi eu trefi lleol cyn y Nadolig drwy 
siopa’n lleol ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr.  Mae’r diwrnod yn cael ei alw’n ‘Ddydd 
Sadwrn Busnesau Bach’ gan ymgyrch genedlaethol anwleidyddol, anfasnachol ar 
lawr gwlad sy’n tynnu sylw at lwyddiannau busnesau bach ac sy’n annog siopwyr i 
‘siopa’n lleol’ a chefnogi busnesau bach yn eu cymunedau.
Gall siopau a busnesau bach eraill lawrlwytho poster am ddim oddi ar wefan yr 
ymgyrch i hyrwyddo’r diwrnod, a hefyd cael cyngor defnyddiol ynglyn â sut i 
ddenu cwsmeriaid ar y diwrnod - https://smallbusinesssaturdayuk.com/. 
Yn ogystal ag annog siopwyr i ddefnyddio eu siopau lleol ar ddydd Sadwrn 
busnesau bach, mae masnachwyr eu hunain yn cael eu hannog hefyd i wneud y gorau 
o’r diwrnod drwy gynnig gostyngiad, cynnig arbennig neu sampl am ddim i ddenu 
pobl i mewn i siopa gyda nhw ar y diwrnod. 
Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd:
Rydym yn hynod falch o gael cefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach ar 6 Rhagfyr.  
Mae gan sawl tref yn Sir y Fflint nifer o fasnachwyr diddorol ac unigryw sy’n 
cynnig ystod dda o eitemau ar gyfer pobl sy’n siopa Nadolig a thrwy gydol y 
flwyddyn.  Mae cefnogi masnachwyr annibynnol lleol yn rhoi hwb i’r economi leol 
ac yn helpu i greu swyddi lleol hefyd.  Dangoswch eich cefnogaeth i’r siopau 
a’r gwasanaethau hanfodol hyn yng nghanol eich trefi drwy siopa’n lleol a 
chefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach.”