Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu Tai Gwarchod

Published: 18/01/2019

Mae Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint wedi cefnogi newid y cymhwysedd ar gyfer holl grwpiau bach a chynlluniau gwarchod hyd at 55 oed, i ddod â hwy yn unol â chymdeithasau tai a phartneriaid eraill, yn amodol ar adolygu ceisiadau cyfredol pobl rhwng 50 a 55 oed.

Roedd y Pwyllgor hefyd yn cefnogi cwmpas yr adolygiad swyddog i ystyried dewisiadau ar gyfer cynlluniau nad ydynt yn addas ar gyfer llety gwarchod a darparu cyfres o argymhellion i aelodau eu hystyried. 

Mae gan y Cyngor nifer o eiddo tai gwarchod sy’n wag ar unrhyw adeg ac mae rhai cynlluniau yn cynnwys rhestrau aros bach iawn.  Os ydych dros 55 oed a bod gennych unrhyw faterion tai, mae’r Cyngor yn eich annog i gysylltu â’n tîm Datrysiadau Tai ar 01352 703777 neu e-bost housingsolutionstriage@flintshire.gov.uk neu alw yn un o’r Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu lle gall y tîm gynghori ar amrywiol ddewisiadau tai.

Mae’r Cyngor yn dymuno sicrhau trigolion na fydd unrhyw beth yn digwydd i unrhyw gynllun ac ni wneir unrhyw benderfyniadau terfynol heb weithio gyda thenantiaid cynllun tai gwarchod a bod yr adroddiad hwn yn ffurfio rhan o’r broses ystyriaeth barhaus.