Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Chwe Chyngor yng Ngogledd Cymru yn cydweithio i daclo digartrefedd

Published: 22/01/2019

Mae’r chwe sir yng Ngogledd Cymru, wedi ymuno mewn partneriaeth â Sefydliad Tai Siartredig Cymru, i gyhoeddi Pobl, Cartrefi a Gwasanaethau: Dull rhanbarthol i fynd i’r afael â digartrefedd yng Ngogledd Cymru.

Y chwe awdurdod lleol yw:

• Cyngor Sir Conwy

• Cyngor Sir Ddinbych

• Cyngor Sir y Fflint

• Cyngor Sir Gwynedd

• Cyngor Sir Ynys Môn

• Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae’r ddogfen yn nodi strategaeth ranbarthol i fynd i’r afael â phob math o ddigartrefedd, boed yn bobl yn cysgu allan, digartrefedd ymysg pobl ifanc, neu bobl yn byw mewn llety dros dro tra eu bod ar restrau aros tai cymdeithasol. Wrth wraidd y strategaeth, mae cynllun gweithredu rhanbarthol a chwe chynllun gweithredu unigol o eiddo pob awdurdod lleol.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y chwe aelod etholedig sy’n arwain ar dai a digartrefedd:

“Hwn yw ein hymrwymiad ar y cyd i ddod â digartrefedd i ben yng Ngogledd Cymru.

“Yn ei hanfod, mae’r strategaeth hon yn cydnabod nad oes gan ddigartrefedd, a’r problemau sy’n ei achosi, unrhyw ystyriaeth i ffiniau awdurdodau lleol ac os ydym wir am fynd â’r afael â’r broblem hon, rhaid i’r chwe chyngor gydweithio er mwyn cyplysu data, gwasanaethau ac atebion.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i gynghorau weithio’n agosach ac rydym ni, yr aelodau etholedig sy’n arwain ar ddigartrefedd yn ein cyfryw awdurdodau, yn cydnabod fod mynd i’r afael â digartrefedd yn faes lle bydd cydweithio o fantais i’n cymunedau ledled y rhanbarth.

“Mae’r ddogfen hon yn nodi strategaeth sy’n seiliedig ar gydweithio er mwyn cyflawni’r nod gyffredinol – cael gwared â digartrefedd yng Ngogledd Cymru. Datblygwyd y strategaeth hon o fewn cyd-destun adolygiadau a strategaethau digartrefedd lleol a bydd yn sail i gynlluniau comisiynu a blaenoriaethau cyllido ar gyfer pob awdurdod lleol.”  

• Cyng. Craig ab lago – Gwynedd

• Cyng. Liz Roberts – Conwy

• Cyng. Bobby Feeley– Sir Ddinbych

• Cyng. Bernie Attridge – Sir y Fflint

• Cyng. David Griffiths – Wrecsam

• Cyng. Alun Wyn Mummery – Ynys Môn

Dywedodd Matt Dicks, Cyfarwyddwr CIH Cymru: “Mae’r diffyg cyflenwad yn ffactor cyfrannol mawr i bobl sy’n datgan eu bod yn ddigartref, p’un a ydynt yn cysgu allan, rhai sydd ar restrau aros tai cymdeithasol, neu’r rhai sy’n cysgu ar soffa ffrind heb unrhyw obaith o gael llety parhaol fforddiadwy.

“Ond mae’r holl dystiolaeth o’r adolygiadau digartrefedd unigol, a gynhaliwyd gan chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru i lywio’r strategaeth hon, yn awgrymu eglurhad mwy cymhleth o ran pam mae cynifer yn cysgu allan neu’n aros i gael ty.

“Mae’n golygu’r grwpiau penodol o bobl sydd angen cefnogaeth, y mathau o gartrefi sydd angen i ni eu darparu ar eu cyfer a’r gwasanaethau sy’n caniatáu iddynt fyw’n gynaliadwy yn y cartrefi hynny – Pobl, Cartrefi a Gwasanaethau.”

I ddarllen Strategaeth Ddigartrefedd Gogledd Cymru cliciwch yma.