Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffioedd Gwastraff Gardd

Published: 04/02/2019

Mewn cyfarfod diweddar, cytunodd Cabinet y Cyngor i barhau â’r polisi ffioedd ar gyfer gwastraff gardd a bydd y gost bresennol o £30 fesul bin yn aros yr un fath ar gyfer 2019.  

I’r trigolion sydd eisiau gwasanaeth casgliad ymyl palmant, mae tanysgrifiadau yn agored o 30 Ionawr. Bydd holl drigolion nawr angen tanysgrifio neu ail-danysgrifio os ydynt yn dymuno parhau gyda chasgliadau gwastraff gardd o 1 Mawrth eleni.

Gellir tanysgrifio ar-lein, dros y ffôn 01352 701234 neu mewn unrhyw swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu.

Bydd casgliadau yn dechrau o 1 Mawrth ac maent wedi eu hymestyn i gynnwys cwymp dail hwyr hyd at 15 Rhagfyr pan fydd casgliadau'r Nadolig yn dechrau.

Meddai Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

"Mae’r Cyngor hefyd yn gweithredu pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff Ty yn Yr Wyddgrug, Bwcle, Maes Glas, Sandycroft ac Oakenholt sy’n derbyn gwastraff gardd drwy’r flwyddyn. Mae cyngor a mwy o wybodaeth ar gompostio gwastraff cartref a gwasanaethau ailgylchu ar gael ar ein gwefan."

Dolen i wefan y Cyngor