Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cwrs codi waliau cerrig sych

Published: 09/12/2014

Ymunodd gwirfoddolwyr a cheidwaid cefn gwlad Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint i gymryd rhan mewn cwrs codi waliau cerrig sych ym Mharc Gwledig Waun y Llyn yn ddiweddar. Codwyd wal dau fetr o hyd a chafodd dwy gamfa garreg eu trwsio.   Treuliodd yr hyfforddwr, Colin Slater, gyfanswm o bedwar diwrnod yn dysgu’r criw.   Roedd y gweithdai’n rhan o brosiect Sgiliau Traddodiadol a gaiff ei ariannu gan Cadwyn Clwyd, Asiantaeth Datblygu Gwledig Sir y Fflint a Sir Ddinbych, drwy’r arian a ddyrennir o Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig drwy Gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.   Dywedodd Stephen Lewis, un o Geidwaid Cefn Gwlad Sir y Fflint:   Mae’n braf dysgu hen sgiliau traddodiadol fel codi wal gerrig. Roedd yn brofiad gwych i’r ceidwaid ac i’r gwirfoddolwyr ac rydym yn bwriadu trefnu rhagor o ddiwrnodau  hyfforddi gyda Colin yn y dyfodol.”   Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:   Mae’r waliau’n edrych yn wych ac mae’r gwaith a wnaed i’w cysylltu â’r camfeydd cerrig wedi talu ar ei ganfed. Diolch i’r gwirfoddolwyr yn enwedig am eu rhan yn llwyddiant y prosiect hwn.   DELWEDD Or chwith ir dde: Colin Slater (hyfforddwr waliau cerrig sych), Lisa-Jayne Reeves (gwirfoddolwr), Lawrence Gotts (Ceidwad Cefn Gwlad Cynorthwyol, Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint) a Stuart Studdart (gwirfoddolwr).