Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mwy o lwyddiant yn Adeiladu Dyfodol

Published: 01/02/2019

IMG_20190125_1147585.jpg

Mae Cyngor Sir y Fflint a’i bartner, Wates Residential North, yn dathlu llwyddiant rhaglen “Adeiladu Dyfodol” arall -  y bedwaredd raglen i’w chynnal yn y sir. 

Mae’r cyrsiau hyfforddi pythefnos dwys hyn wedi gweld pobl leol yn cael swyddi mewn labro, gwaith tir a gosod ffenestri, neu brentisiaethau mewn meysydd amrywiol, yn cynnwys gosod brics a gwaith trydanol.

Cafodd 13 o bobl eu recriwtio drwy raglen Cymunedau am Waith Sir y Fflint a Chymunedau am Waith a Mwy sy’n gweithio gyda phobl sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i gael eu cyflogi. 

Roedd y rhaglen hyfforddi, a gynhaliwyd yn swyddfa Wates yn Yr Wyddgrug, yn cynnwys sesiynau sgiliau crefftau adeiladu, gan gynnwys gwaith coed a chynnal a chadw yn ogystal â gweithdai ysgrifennu CV a chyfweliadau gyda Wates Residential a’u partneriaid cadwyn gyflenwi. 

Fe wnaethant gwblhau cwrs BTEC Lefel 1 mewn adeiladu a sesiynau sgiliau gwaith coed a chynnal a chadw ymarferol ar safle adeiladu Wates ym Maes Gwern yn Yr Wyddgrug. Llwyddodd yr holl gyfranogwyr i gael eu cardiau Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS). Mae cardiau CSCS yn darparu prawf bod unigolion sy’n gweithio ar safleoedd adeiladu wedi derbyn yr hyfforddiant a’r cymwysterau angenrheidiol ar gyfer y math hwnnw o waith, felly bydd hyn yn rhoi dechrau da iddynt yn eu gyrfaoedd adeiladu. 

Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint a gyflwynodd y tystysgrifau i’r cyfranogwyr: 

 “Rwyf yn hynod falch o gyflwyno’r tystysgrifau hyn i’r hyfforddeion– y bedwaredd garfan lwyddiannus yn Sir y Fflint. Rydym yn gweithio tuag at gyflwyno mwy o brentisiaethau yn y sir, yn arbennig ym maes adeiladu.  Da iawn i bob un ohonoch am gymryd y cam cyntaf a chwblhau’r rhaglen hon.  Rydych i gyd wedi bod yn bresennol bob dydd ac wedi cyflawni cymwysterau defnyddiol.  Mae llawer o gyfleoedd ar gael i chi ddatblygu’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni hyd yma.” 

Dywedodd Paul Dodsworth, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Construction and Residential North: 

“Mae ein partneriaeth hirdymor gyda Chyngor Sir y Fflint yn ein rhoi mewn safle unigryw i gynhyrchu ffrwd o gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i bobl leol. Mae gweld ein tîm yn cyflawni’r bedwaredd rhaglen Adeiladu Dyfodol yn Sir y Fflint yn dangos cryfder ein hymrwymiad i sicrhau fod ein gwaith yn y sir yn cael effaith gadarnhaol ar ei dinasyddion ac edrychwn ymlaen i barhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn.”

Mae darparu Adeiladu Dyfodol yn rhan o swyddogaeth Wates Residential North fel datblygwr arweiniol ar gyfer Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) y Cyngor, a fydd yn gweld 500 o gartrefi newydd yn cael eu creu ledled Sir y Fflint dros y pum mlynedd nesaf.

Achredwyd gan y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF). Mae Adeiladu Dyfodol yn rhoi cymhwyster FfCCh Lefel 1 mewn Crefftau Adeiladu a chofrestriad CSCS i ymgeiswyr i’w helpu i sicrhau hyfforddiant a phrofiad gwaith ar safleoedd adeiladu yn y dyfodol.