Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ceisio eich barn am strategaeth toiledau lleol ar gyfer Sir Y Fflint

Published: 06/02/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn am eich barn ar strategaeth ar gyfer toiledau cyhoeddus yn y Sir.

Yn gyfreithiol, nid oes rhaid i'r Cyngor ddarparu a chynnal toiledau cyhoeddus yn uniongyrchol.  Serch hynny, mae’n rhaid iddynt gymryd golwg strategol o ran sut y gellir darparu cyfleusterau a chael mynediad atynt, gan ystyried pethau fel lleoliad, hygyrchedd, cyfleusterau, amlder defnydd ac ansawdd safleoedd presennol, yn ogystal â phennu a oes angen safleoedd ychwanegol neu lai ohonynt ar gyfer eu poblogaeth leol.  

Meddai Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Ers 2012, mae Cyngor Sir y Fflint wedi cynnal dau adolygiad unigol o ddarpariaeth toiledau ar draws y Sir. Amlygodd yr adolygiadau hyn fod rhai cyfleusterau yn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rheolaidd, sy’n gwneud pobl yn llai tebygol o’u defnyddio. O ganlyniad, mabwysiadodd Sir y Fflint ddull o hyrwyddo defnydd o doiledau presennol yn Adeiladau'r Cyngor fel llyfrgelloedd a Chanolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu, y mae pobl yn teimlo'n fwy hyderus a chyfforddus yn eu defnyddio. Mae’r Cyngor wedi cael y dasg gan Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth ond nid oes cyllid ychwanegol ar gyfer darparu mwy.” 

Rydym nawr yn gofyn am eich adborth i lunio Strategaeth Toiledau newydd.  Cliciwch yma i agor y ffurflen adborth neu ewch i’n gwefan https://www.surveymonkey.co.uk/r/LocalToiletsStrategy.  Gallwch weld y strategaeth ddrafft ar ein gwefan drwy fynd i hafan ein gwefan www.siryfflint.gov.uk a chlicio ar y faner ymgyrch “Strategaeth Toiledau”.    

Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw dydd Gwener, 26 Ebrill 2019.

Strategaeth Ddrafft Toiledau