Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Dai a Chynllun Gweithredu 2019-2024

Published: 15/02/2019

 

Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter Cyngor Sir y Fflint adolygu’r Strategaeth Dai a Chynllun Gweithredu drafft ar gyfer 2019-2024 pan fydd yn cyfarfod ar 18 Chwefror.

Mae Strategaeth Dai a Chynllun Gweithredu drafft Sir y Fflint yn cynnwys y weledigaeth ynglyn â sut y bydd y Cyngor a'i bartneriaid yn diwallu ein hanghenion o ran tai fforddiadwy, darparu’r gefnogaeth berthnasol i’n trigolion a sicrhau ein bod yn creu cartrefi cynaliadwy.

Mae’n cynnwys 3 blaenoriaeth:

Blaenoriaeth 1: Cynyddu cyflenwad i ddarparu’r math cywir o gartrefi yn y lleoliad cywir drwy adeiladau newydd, defnyddio’r sector rhentu preifat, a defnydd gwell o stoc bresennol.

Blaenoriaeth 2: Darparu cefnogaeth i sicrhau bod pobl yn byw ac yn aros yn y math cywir o gartref drwy gefnogaeth fydd yn atal pobl ddiamddiffyn rhag bod yn ddigartref a’u cynnal yn eu cartrefi.

Blaenoriaeth 3: Gwella ansawdd a chynaliadwyedd ein cartrefi gan gynnwys mynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy fesurau arbed ynni.

Roedd y Strategaeth Dai flaenorol yn cyflawni nifer o gyflawniadau gan gynnwys:

·       Adeiladu dros 300 o dai cymdeithasol a fforddiadwy newydd ar draws Sir y Fflint:

·       Gweithio gyda’r datblygwyr preifat i ddarparu 134 o unedau ecwiti rhannu perchnogaeth fforddiadwy;

·       Adfywio canol tref y Fflint drwy ddisodli’r fflatiau deulawr gyda 62 o eiddo rhent fforddiadwy a 30 o eiddo cymdeithasol i’w rhentu;

·       Darparu rhan sylweddol o Safon Ansawdd Tai Cymru ar y stoc dai Cyngor a’n stoc Cymdeithas Tai partner.

Meddai Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

“Bydd y Strategaeth Dai newydd yn adeiladu ar y cyflawniadau blaenorol hyn o fewn cyd-destun yr heriau presennol a wynebir gennym, fel diwygio'r gyfundrefn les, y cynnydd mewn digartrefedd ‘cudd’ ac adnoddau sy’n gynyddol gyfyngedig. Mae’r Strategaeth yn cynnwys uchelgeisiau’r Cyngor i ddiwallu anghenion tai trigolion Sir y Fflint yn y dyfodol.” 

Bydd yna ymgynghoriad ehangach ar y strategaeth yn ystod mis Mawrth gyda’r fersiwn terfynol o’r strategaeth yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn 2019.  Mwy o fanylion i ddilyn ar hyn.