Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Cyngor Sir y Fflint – mae rhai adrannau wedi symud

Published: 13/02/2019

Hoffai Cyngor Sir y Fflint atgoffa rhai preswylwyr bod rhai adrannau wedi symud o Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug i Barc Dewi Sant yn Ewlo.

Mae’r Adrannau Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi, Gwasanaethau Addysg a’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi symud i Dy Dewi Sant.  Os oes gennych gyfarfodydd neu angen cysylltu ag unrhyw rai o’r adrannau hyn, bydd angen i chi fynd i Ewlo.

Mae pob cyfeiriad e-bost a rhif ffôn yn aros yr un fath.

Mae gan adeilad Ty Dewi Sant faes parcio i ymwelwyr ar flaen yr adeilad ac mae’n rhan o ddatblygiad Parc Dewi Sant sy’n creu cyswllt lleoliadol cryf ac yn darparu enghraifft weladwy o ymrwymiad y Cyngor i'r Gymraeg.

Mae Neuadd y Sir yn Yr Wyddgrug yn hen adeilad sydd wedi cyflawni ei ddiben yn effeithiol ers sawl blwyddyn. Serch hynny, mae hefyd yn adeilad costus i’w gynnal ac mae’r Cyngor wedi edrych ar yr holl ddewisiadau sydd ar gael iddo i greu arbedion effeithlonrwydd yn yr hinsawdd ariannol heriol hon. Mae’r adeilad newydd hwn yn darparu safle modern a chost effeithiol er mwyn i’n staff allu cynnal gwasanaethau o ansawdd uchel yn y dyfodol.