Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi digwyddiad cwrdd â'r prynwr

Published: 12/02/2019

Mae Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar fusnesau bach lleol yn y sir.

Mae’r rhaglen yn adeiladu tai cyngor a thai fforddiadwy newydd ar draws Sir y Fflint.

Mae’r contractwr a benodwyd gan y Cyngor, Wates Residential North, yn cynnal digwyddiad a fydd yn rhoi cyfle i fusnesau bach lleol gael gwybod mwy am y datblygiadau tai newydd a chyffrous hyn gyda’r nod o gael eu cyflogi fel is-gontractwyr.

Mae croeso i’r holl fusnesau bach lleol sy’n ymwneud â’r diwydiant adeiladu ac sydd wedi’u lleoli yn Sir y Fflint ymweld â swyddfa Wates, neu hen Lyfrgell yr Wyddgrug ar Raikes Lane yn yr Wyddgrug, ddydd Mawrth 5 Mawrth rhwng 8am a 10am i gael rhagor o wybodaeth.

Estynnir gwahoddiad i bob maes yn y diwydiant adeiladu gan gynnwys cwmnïau gwaith tir, gosodwyr brics, towyr, gweithwyr plymio a thrydanwyr, plastrwyr, seiri, peintwyr, tirlunwyr a ffenswyr. Bydd tîm datblygu busnes y Cyngor hefyd yn dod i'r digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Sir y Fflint mewn Busnes.

Safleoedd Datblygu:

  • Depo Dobshill - Dobshill
  • Nant y Gro - Gronant
  • Garden City - Garden City
  • Ffordd Hiraethog - Mostyn
  • Ffordd Pandarus - Mostyn

Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

“Mae nifer o fusnesau lleol eisoes wedi elwa o weithio gyda ni, o ganlyniad i’r bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Cyngor a Wates. Mae cam nesaf ein Rhaglen Tai ac Adfywio’n rhoi cyfleoedd i fusnesau lleol eraill fanteisio ar y cyfle hwn, waeth pa mor fawr ydyn nhw."

“Rydyn ni'n awyddus i barhau i greu cyfleoedd cyflogaeth trwy ddefnyddio busnesau lleol. Byddwn yn annog busnesau bach yn y diwydiant adeiladu i ddod i’r digwyddiad hwn i gael rhagor o wybodaeth ac i weld sut y gallent fod yn rhan o’n gwaith."

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â:

Mick Cunningham - Wates Residential North, Arweinydd Fframwaith - 07795 520727 neu Kate Catherall, Cyngor Sir y Fflint, Swyddog Datblygu Busnes - kate.p.catherall@flintshire.gov.uk - 01352 703221.