Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Dathlu Gwyl Ddewi yn fuan 

Published: 25/02/2019

Chair 3.jpg  cambria band 2.jpg

 

 

 

 

 

 

 

crowd.jpgMae dathliadau Dydd Gwyl Ddewi wedi dechrau’n fuan eleni yn y Fflint, gyda digwyddiad arbennig i ddathlu diwylliant, ieuenctid a hunaniaeth Cymru. 

Cynhaliwyd y digwyddiad yng nghanol tref y Fflint o flaen Eglwys y Santes Fair ar Stryd yr Eglwys ddydd Gwener 22 Chwefror 2019. 

Bu i’r dorf fwynhau perfformiadau gan ysgolion a cherddorion lleol. Trefnwyd y digwyddiad blynyddol hwn mewn partneriaeth â Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint. Cyhoeddodd Maer y Dref enillwyr y gystadleuaeth addurno ffenestr siop dan thema Gwyl Ddewi, sef Hosbis Ty’r Eos. 

Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:  

“Roedd hwn yn gyfle gwych i bawb ddathlu ein diwylliant a’n treftadaeth Gymreig. Mae’r digwyddiad blynyddol yma yn dod â phawb yn y gymuned leol ynghyd. Rwy’n falch iawn bod cynifer o bobl wedi dod i ddathlu a chefnogi ein hysgolion a’n cerddorion lleol.” 

Meddai’r Cynghorydd David Cox, Maer y Fflint: “Mae Cyngor Tref y Fflint yn falch o gefnogi'r digwyddiad yma i ddathlu ieuenctid a diwylliant Cymru.” 

Dywedodd Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam:

“Mae’n braf iawn bob blwyddyn i weld cymaint o bobl lleol yn dod allan i wylio’r perfformiadau ac ymuno yn yr hwyl. Erbyn hyn mae dathliadau dydd Gwyl Dewi y Fflint wedi’i sefydlu fel digwyddiad poblogaidd yng nghalendr y dref ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn parhau i dyfu a pharhau i ddod â’r gymuned at ei gilydd i’r dyfodol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint am eu cefnogaeth oedd yn gwneud y dathliadau’n bosibl. Rydym yn arbennig o ddiolchgar hefyd unwaith eto i Eglwys y Santes Fair a Dewi Sant am y croeso cynnes a chymorth ymarferol! Braf hefyd oedd cael cwmni Maer y Fflint wrth iddo gyhoeddi enillwyr y Gystadleuaeth Addurno Ffenestri a chyflwyno’r gwobrau.”