Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grant Diogelwch ar y Ffyrdd – Ffordd yr Wyddgrug, Ffordd Llanarth a’r Stryd Fawr, Cei Connah

Published: 01/03/2019

Yn dilyn cadarnhad o gyllid gan Lywodraeth Cymru dan fenter Grant Diogelwch ar y Ffyrdd, bydd gwaith ar fesurau diogelwch ar Ffordd yr Wyddgrug, Ffordd Llanarth a Stryd Fawr Cei Connah yn dechrau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 4 Mawrth 2019.

Mae’r cynigion yn cynnwys gosod arwyddion rhybudd ysgol rhyngweithiol, creu troedffordd ar hyd Ffordd Clivedon sy’n cysylltu â Hollowbrook Drive, a chreu croesfan sebra ar Ffordd yr Wyddgrug. Bydd arwyddion a marciau ffordd newydd hefyd yn cael eu gosod ar hyd y ffordd, yn ogystal â gosod wyneb newydd ar y lôn gerbydau wrth ymyl cyffyrdd allweddol.

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Rwyf yn falch iawn bod y gwaith ar y mesurau diogelwch hyn yn cychwyn yn fuan diolch i lwyddiant y swyddogion Strydwedd wrth wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cynllun yn gwella hyfywedd cerdded a beicio er budd y gymuned leol.”