Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Comisiynu Gweithiau Celf Cyhoeddus ar Flaendraeth y Fflint 

Published: 05/03/2019

Fel rhan o fenter adfywio'r Fflint, gwahoddodd y Rheolwr Prosiect curadurol Addo a Chyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth gyda Chadw, ac amrywiaeth o bartneriaid lleol, geisiadau gan artistiaid profiadol i gynhyrchu gweithiau celf ar gyfer y dref. 

Hysbysebwyd dau gomisiwn, Comisiwn Un – gwaith celf ‘eiconig' i gael ei leoli ar Flaendraeth y Fflint. Comisiwn Dau – Llwybr Celf yn cysylltu’r blaendraeth gyda’r dref fel rhan o fenter adfywio ehangach y tirlun unigryw a chymhellol hwn. 

Dewiswyd pum artist i'w rhoi ar y rhestr fer i gynhyrchu dyluniadau ysgogol cychwynnol ar gyfer gwaith celf eiconig ar y blaendraeth. Dewiswyd pob un yn sgil eu brwdfrydedd ar gyfer y briff a’u gallu i gydweithio ag eraill wrth ddatblygu a chyflawni’r gweithiau celf. Bydd y dyluniadau ar ddangos i’r cyhoedd yn Llyfrgell y Fflint rhwng 1 a 6 Ebrill. Caiff trigolion lleol gyfle i roi sylw am y dyluniadau cychwynnol a chwrdd â’r artistiaid i drafod eu syniadau. 

Yr artistiaid ar y rhestr fer ydi: 

Manon Awst, mae hi’n artist ac ymchwilydd sydd wedi’i lleoli yng Nghaernarfon, sydd wedi creu cerfluniau safle-benodol a gosodiadau ar draws Ewrop https://manonawst.com 

Mae Howard Bowcott http://www.howardbowcott.co.uk wedi’i leoli yng ngogledd Cymru ac mae’n gweithio ar brosiectau celfyddydau ac adfywio trwy gydol y DU ac ymhellach i ffwrdd. 

Mae Richard Harris http://www.richardharrissculpture.co.uk yn gwneud cerfluniau amgylcheddol enfawr ar safleoedd ar draws y byd ac mae wedi’i leoli yng nghanolbarth Cymru. 

Mae John Merril http://www.johnmerrill.org wedi’i leoli yng ngogledd Cymru ac mae’n cynhyrchu gweithiau celf cyhoeddus ar raddfa fawr sydd yn ymateb i dirluniau naturiol. 

Mae Rich White http://www.counterwork.co.uk yn gwneud gosodiadau, sydd yn edrych ar y berthynas sydd yn datblygu rhwng pobl a’u hamgylchedd. 

I helpu i wella'r cysylltiad a naws rhwng y blaendraeth a chanol y dref, dewiswyd Grennan & Sperandio ar gyfer Comisiwn Llwybr Celf y Fflint. Mae’r ddau wedi’u lleoli yng ngogledd Cymru ac Unol Daleithiau America, ac maent yn hysbys am eu gweithiau celf perthynol, cymdeithasol a chydweithredol. Ffocws eu gwaith ydi defnyddio straeon a chymeriadau lleol. 

Dewisodd y grwp llywio adfywio a phartneriaid artistiaid a ddangosodd parodrwydd i drochi eu hunain ym mywyd a diwylliant yr ardal a chroesawu’r cyfle i weithio gyda grwpiau, cymunedau, busnesau lleol a'r tîm prosiect adfywio yn ehangach (yn cynnwys penseiri datblygiad y blaendraeth) fel rhan annatod o’u hymarfer. 

I gael rhagor o wybodaeth am gomisiwn y Gwaith Celf Cyhoeddus a chomisiwn y Llwybr Gelf, cysylltwch â Gwenno Eleri Jones gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk neu Tracy Simpson tracy@addocreative.com 

Mae Prosiect Adfywio Blaendraeth y Fflint yn dymuno datblygu canolfan gymunedol arloesol a modern newydd ger safle’r castell a fydd yn cynnwys cyfleusterau pêl-droed, rygbi a chlwb cymdeithasol, canolfan i ymwelwyr a Gorsaf y Bad Achub. Bydd gan y gweithiau celf berthynas symbiotig gyda’r castell a bydd yn ysgogol ac ystyrlon. Bydd y deunyddiau a ddefnyddir yn sympathetig ac ni fyddant yn tynnu sylw oddi ar yr amgylchedd hanesyddol a harddwch aber Afon Dyfrdwy.