Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


ANGEN MILOEDD YN FWY O WEITHWYR GOFAL YNG NGHYMRU ERBYN 2030

Published: 05/03/2019

Social Care images4.jpgBydd angen miloedd yn fwy o bobl i weithio mewn rolau gofalu gydag oedolion a phlant yng Nghymru erbyn 2030 er mwyn bodloni’r galw cynyddol am wasanaethau gofal a darparu cymorth i gymunedau ledled y wlad.

I helpu i ddenu mwy o bobl i weithio mewn gofal, mae ymgyrch genedlaethol o’r enw Gofalwn wedi’i lansio heddiw.

Mae’r ymgyrch yn gydweithrediad rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru a sefydliadau arweiniol sy’n cynrychioli’r sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, ynghyd â chyrff cenedlaethol eraill sy’n ymwneud â chwilio am waith a chyngor gyrfaol.

Mae’n rhan o strategaeth hirdymor i ddatblygu'r gweithluoedd yn y sectorau gofal ac iechyd dros y ddegawd nesaf er mwyn cynnig gwasanaeth di-dor o ansawdd uchel i bobl Cymru.

Bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol mewn gofal, o warchodwyr plant ac ymarferwyr meithrin i gydlynwyr gofal cartref a rheolwyr cartrefi gofal.

Social Care images6.jpgWrth i fwy o bobl yng Nghymru fyw’n hirach, bydd gan fwy anghenion penodol a bydd angen cymorth arnynt yn eu cartrefi a’r tu allan iddynt. Mae rhagolygon yn nodi y bydd angen o gwmpas 20,000 yn fwy o weithwyr dros y 10 mlynedd nesaf i ateb galw cynyddol y boblogaeth. 

Ar hyn o bryd, mae tua un o bob 17 oedolyn yng Nghymru yn gweithio mewn gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant (tua 113,000 o bobl), sy’n golygu bod y maes yn gyflogwr mwy na'r GIG. Ond mae’r maes gwaith hwn yn tyfu o hyd.

Nod yr ymgyrch Gofalwn yw tynnu sylw at yr amrywiaeth o rolau a chyfleoedd datblygu gyrfa sydd ar gael. Drwy ddefnyddio gweithwyr gofal go iawn, mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar yr heriau y maent yn eu hwynebu, ynghyd â’r hyn sy’n gwneud eu gwaith yn werth chweil.

Mae Aled Burkitt o Sir Fynwy yn gweithio fel gweithiwr gofal a chymorth i bobl sy’n byw gyda dementia. Meddai: “Ro’n i’n arfer gweithio oriau eithaf anghymdeithasol fel cogydd. Ond pan gafodd fy mab ei eni, roedd angen rhywbeth mwy hyblyg arna’ i.

“Roedd gan fy nhad-cu ddementia ac fe welais sut cafodd ei gefnogi gan ei ofalwyr, a’r berthynas oedd rhyngddyn nhw. Ro’n i’n meddwl y basen i’n dda am y gwaith a dwi nawr yn cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia yn y gymuned.

“Mae’n anodd weithiau. Mae’n ymwneud ag adeiladau perthnasau a gweithio allan sut y gallwch adeiladu ffydd. Ond mae cerdded i mewn i ymweliad cynta’r dydd a gweld gwên fawr ar wynebau’r bobl rwy’n eu cefnogi yn amhrisiadwy.”

Social Care images8.jpgMae Amanda Calloway wedi bod yn gweithio fel gwarchodwr plant ers 12 mlynedd. Meddai: “Ro’n i'n arfer gweithio mewn bancio, ac roedd fy rôl yn achosi tipyn o straen, ond ar ôl cael fy mhlant penderfynais fod yn warchodwr plant dros dro.

“Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach, dwi yma o hyd. Mae wedi fy ngalluogi i astudio ochr yn ochr â rhedeg fy musnes oherwydd dwi’n gweithio o gartref ac mae’n ddigon hyblyg i ffitio o gwmpas fy mywyd.

“Dwi’n mwynhau rhedeg a bod yn yr awyr agored, felly dwi’n mynd â’r plant i’r warchodfa natur, i’r goedwig neu i’r traeth gymaint â phosibl. Mae’n yrfa werth chweil, er ei bod yn waith caled hefyd. Mae’n wych cael y cyfle i siapio dyfodol bywydau plant."

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Yng Nghymru, rydym yn ffodus i gael tîm o weithwyr ymrwymedig iawn yng ngofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n mynd cam ymhellach pob dydd. O ofalu a helpu ein plant ieuengaf i ddatblygu a ffynnu, i ddarparu cymorth a gofal tosturiol i oedolion a phobl hyn, maent yn gwneud newid enfawr i fywydau pobl. Ond, rydym angen mwy o bobl i gysidro’r gyrfaoedd gwerth chweil hyn.

“Dyma pam rydw i wrth fy modd yn cefnogi’r ymgyrch newydd Gofalwn. Mae wedi ei gynllunio i arddangos y cyfleoedd gall gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant eu cynnig i rheiny â’r sgiliau a’r rhinweddau gofalu cywir, a’r gymorth sydd ar gael i’w helpu i ddatblygu a magu eu sgiliau i gefnogi pobl i fyw bywydau llawn a gweithgar.

“Rwy’n ddiolchgar i Ofal Cymdeithasol Cymru a’i phartneriaid, yn enwedig gweithwyr gofal sydd wedi rhannu eu profiadau, am eu gwaith ar yr ymgyrch. Rwy’n gobeithio bydd ei straeon yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ofalwyr, gweithwyr gofal plant, gofalwyr plant a chynorthwywyr gofal.”

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Yng Nghymru, mae tua 90,000 o bobl yn gweithio mewn gofal cymdeithasol, tra bod 23,000 yn gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Fodd bynnag, mae angen mwy o bobl arnom o hyd i fodloni anghenion a disgwyliadau cymdeithas dros y 10 mlynedd nesaf.

“Gall gweithio mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant fod yn heriol, ond mae hefyd yn hynod o werth chweil. Mae'r ymgyrch Gofalwn wedi'i datblygu i ddenu’r bobl gywir i gefnogi rhai o aelodau mwyaf bregus ein cymunedau neu i helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

“Mae yna amrywiaeth o rolau ar gael yn gweithio gydag oedolion a phlant, ynghyd â chyfleoedd i ennill cymwysterau wrth weithio a datblygu gyrfaoedd. Mae cymwysterau newydd mewn iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yn cael eu lansio o fis Medi eleni ac mae’r ymgyrch hon yn rhan o gynllun ehangach i sicrhau bod gennym weithlu ar draws y gwasanaethau gofal ac iechyd a fydd yn bodloni anghenion pobl Cymru yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rolau sydd ar gael a chyflogwyr lleol yn y sectorau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant, ewch i Gofalwn.cymru. Bydd y wefan yn cael ei ddiweddaru’n gyson gyda mwy o fanylion a gwybodaeth ddefnyddiol.