Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned – Ysgol Mountain Lane, Bwcle

Published: 13/03/2019

Mountain Lane Zebra Crossing 01.jpgMae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael arian gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon diogelwch ffordd a thagfeydd ar Lôn Knowle, Ffordd yr Eglwys a Ffordd Linthorpe Bwcle, er budd y gymuned a phlant sy’n mynychu Ysgol Gynradd Mountain Lane. 

Mae’r cynllun, sydd bellach wedi’i gwblhau ac yn weithredol, wedi cyflwyno llawer o fuddion, yn cynnwys gwneud cerdded, beicio a defnyddio sgwter yn fwy hygyrch i ddisgyblion a’r gymuned ehangach. 

Mae’r gwaith sydd wedi’i gwblhau yn cynnwys: 

  • terfyn cyflymder gorfodol o 20mya; 
  • system un ffordd (ac eithrio Beicwyr) ar hyn Lôn Knowle; 
  • croesfan sebra o flaen prif adeilad yr ysgol ar dwmpathau ffordd; 
  • cyfyngiadau parcio ar hyd Lôn Knowle i ddatrys y broblem o barcio diwahaniaeth; 
  • croesfan â signalau yn lle’r groesfan sebra flaenorol; 
  • gwelliannau i’r llwybr troed, cyflwyno troedffordd / llwybr beiciau 3m o led a rennir drwy’r gerddi. 

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 

“Rwyf yn falch iawn bod Swyddogion Strydwedd Cyngor Sir y Fflint wedi gallu cael y cyllid grant hwn gan Lywodraeth Cymru, gan ei gyfuno â chyfraniadau’r datblygwr a chyllid ail-wynebu’r cyngor i sicrhau cynllun gwell. Bydd yr elfen Teithio Llesol yn gwella diogelwch ac yn annog plant a theuluoedd i gerdded, beicio a defnyddio eu sgwteri i deithio i’r ysgol. 

“Mae cysylltiadau cymunedol hefyd wedi’u gwella yn yr ardal ehangach. Mae tagfeydd a diogelwch yn fater mawr o amgylch ysgolion yn ogystal â llygredd. Mae gallu treulio amser fel teulu yn rhywbeth gwerthfawr iawn a gellir treulio’r amseroedd gorau yn cerdded a sgwrsio fel teulu.” 

Mae cyllid Llwybrau Mwy Diogel i'r Ysgol yn cefnogi datblygiadau isadeiledd o amgylch dalgylchoedd ysgolion a chlystyrau er mwyn ei gwneud yn haws i ddisgyblion gerdded, beicio neu i fynd ar sgwter i’r ysgol yn ddiogel. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd teithio llesol a’r buddion iechyd cadarnhaol a ddaw yn sgil defnyddio dulliau cynaliadwy o deithio ar gyfer siwrneiau byr bob dydd. Mae’r Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau mai cerdded a beicio yw’r dulliau mwyaf naturiol a chyffredin o deithio, er mwyn helpu pobl i wella eu iechyd, i lleihau’r allyriadau nwyon ty gwydr ac i fynd i’r afael â thlodi ac anfantais. 

Ar yr un pryd mae Llywodraeth Cymru eisiau helpu i’r economi dyfu a chymryd camau i sicrhau twf economaidd cynaliadwy. Gellir gwneud hyn wrth i fwy o bobl ddechrau cerdded a beicio, gan y bydd yn lleihau tagfeydd, yn lleihau nifer y dyddiau a gollir oherwydd salwch a bydd yn cefnogi’r diwydiannau beicio a thwristiaeth yng Nghymru. 

Bydd Bil Teithio Llesol (Cymru) yn galluogi mwy o bobl i ddewis Teithio Llesol, fel dewis amgen i deithio â moduron. Felly, bydd mwy o bobl yn cael cyfle i gynnwys gweithgarwch corfforol yn eu bywydau o ddydd i ddydd.