Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Galw am wirfoddolwyr

Published: 13/03/2019

A ydych chi’n caru Arfordir Sir y Fflint? Beth am ddod draw i ddysgu am Grwp Gwirfoddol Arfordir y Fflint a gaiff ei sefydlu gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint.  

Bydd y grwp yn helpu’r Ceidwad i ofalu am yr arfordir hyfryd hwn, drwy gasglu sbwriel, monitro llwybrau cerdded, tasgau ymarferol, arolygon digwyddiadau a chadw golwg cyffredinol ar yr ardal. Mae’r grwp yn agored i bawb ac nid yw profiad blaenorol yn hanfodol. Diddordeb? Dewch draw i gael rhagor o wybodaeth yng Nghaffi’r Hen Lys, y Fflint ddydd Sul 17 Mawrth rhwng 10am a 12pm.