Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi Gwerth Cymdeithasol

Published: 14/03/2019

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi adolygu a chymeradwyo’r Strategaeth Gwerth Cymdeithasol ddrafft.

Mae gwerth cymdeithasol yn edrych y tu hwnt i gost ariannol gwasanaeth ac mae'n ystyried pa fuddion ychwanegol sydd i'r gymuned. Bydd gweithredu’r Strategaeth Gwerth Cymdeithasol yn elfen allweddol i fodloni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

Mae’r strategaeth hon yn arwydd o ddull newydd, hollgynhwysol o greu gwerth cymdeithasol o weithgareddau’r Cyngor a’i bartneriaid. 

Mae’r Strategaeth ddiwygiedig yn herio partneriaid, gwasanaethau a chyflenwyr i ystyried sut y gallent greu gwerth ychwanegol i gymunedau Sir y Fflint a mesur hynny.

Y nodau hirdymor wrth weithredu’r Strategaeth yw:

  • caniatáu i sefydliadau’r trydydd sector ddangos y gwerth cymdeithasol sy’n cael ei greu drwy eu gwaith, a fydd yn eu helpu i gael adnoddau a chontractau;
  • annog cwmnïau lleol a rhanbarthol i gryfhau eu hymagwedd at gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol; ac
  • annog a chefnogi rheolwyr gwasanaethau’r sector cyhoeddus i wella’u hymwybyddiaeth o effeithiau eu gwaith ar y gymuned.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:

“Mae’r Cyngor wedi gwneud cynnydd cadarnhaol yn y blynyddoedd diwethaf i gynnig gwerth cymdeithasol ychwanegol o'i wariant ar ddarparu gwasanaethau, yn enwedig y nifer uwch o brentisiaethau sy'n cael eu darparu drwy ein rhaglenni buddsoddi cyfalaf ar dai cyngor newydd a gwelliannau mewn ysgolion."

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

“Mae adolygiad wedi’i gynnal ac mae’n amlwg bod yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd wedi'i ddatblygu’n dda, yn enwedig yn y diwydiant adeiladu. Mae cyflenwyr yn gyfarwydd iawn â darparu buddion i gymunedau, yn enwedig prentisiaethau a phrofiad gwaith, ac mae fframwaith da i gasglu tystiolaeth o'r hyn sydd wedi'i gyflawni."

Bydd angen adnoddau i ddatblygu dull effeithiol i greu gwerth cymdeithasol. Y bwriad yw creu swydd i swyddog arweiniol er mwyn cyflawni’r Strategaeth Gwerth Cymdeithasol, i ddarparu cymorth dwys i swyddogion, cyflenwyr a phartneriaid a sicrhau bod y buddion yn cael eu darparu a'u cofnodi. Bydd porth meddalwedd hefyd yn cael ei greu er mwyn gallu rheoli gwerth cymdeithasol yn effeithiol ar draws y Cyngor ac ymysg ei bartneriaid a dangos bod egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi'u cyflawni.