Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor sy’n ystyriol o ddementia

Published: 14/03/2019

Mae Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno bod y Cyngor yn datblygu’n sefydliad sy’n ystyriol o ddementia. 

Mae rhaglen Cymunedau a Sefydliadau Ystyriol o Ddementia Cymdeithas Alzheimer's yn ceisio annog pawb i rannu'r cyfrifoldeb o sicrhau bod pobl gyda dementia yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyfrannu at eu cymunedau. Mae hyn yn canolbwyntio ar wella cynhwysiant ac ansawdd bywyd drwy ddarparu sesiynau hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth o fewn cymunedau a sefydliadau er mwyn iddynt ymateb i anghenion pobl gyda dementia a’u gofalwyr. 

Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae dementia yn flaenoriaeth mewn sawl cynllun corfforaethol. Er mwyn selio ein hymrwymiad i’r rhaglen hon hoffem ddod yn gyngor sy’n ystyriol o ddementia, y cyntaf yng ngogledd Cymru. 

“Nid ydym yn dechrau ar y gwaith hwn ar gychwyn stond. Mae codi ymwybyddiaeth o ddementia a sut mae’n effeithio ar bobl yn ein cymunedau wedi bod yn rhan o’n gwaith ers blynyddoedd lawer. Mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, rydym yn cyflogi Arweinydd Gwasanaeth Dementia i ddatblygu’r rhaglen hon yn lleol. Mae’n braf gennyf adrodd bod gan Sir y Fflint, hyd yma, wyth caffi, saith cymuned a thri sefydliad sy’n ystyriol o ddementia. Mae gennym eisoes nifer o adrannau yn y Cyngor sy’n “dimau ystyriol o ddementia” ac mae prif swyddogion a rhai aelodau etholedig hefyd wedi derbyn hyfforddiant.” 

Mae Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017-23 yn ymrwymo i ddatblygu cefnogaeth ac ymwybyddiaeth o ddementia ymhellach ar draws y sir drwy:

  • Cynyddu nifer y cymunedau sy’n ystyriol o ddementia yn Sir y Fflint
  • Gweithio mewn partneriaeth i gefnogi pobl â dementia yn y gymuned 

Mae’r adroddiad yn cynnig sefydlu Grwp Llywio Cyngor Ystyriol o Ddementia a fydd, ymhlith pethau eraill, yn cyflwyno hyfforddiant cyfeillion dementia ar draws y Cyngor ac yn creu cefnogwyr dementia o fewn gwasanaethau. 

Mae’r broses o ddod yn gyngor ystyriol o ddementia yn debyg iawn i’r broses o ddod yn gymuned ystyriol o ddementia. Mae’r broses achredu yn cynnwys bodloni meini prawf penodol a chyflwyno cais ar-lein i’r Gymdeithas Alzheimer's am gydnabyddiaeth swyddogol. Bydd hyn yn galluogi Cyngor Sir y Fflint i ddefnyddio logos ac adnoddau ‘Gweithio tuag at fod yn ystyriol o Ddementia’.