Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cymunedau am Waith a Mwy yn helpu rhieni i gyflogaeth

Published: 20/03/2019

Ysgol Gywnedd 01.jpg

Dathlwyd llwyddiant y rhaglen ddiweddaraf yn helpu trigolion lleol i gyflogaeth.

Gan adeiladu ar brosiectau llwyddiannus blaenorol, cynhaliodd Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint seremoni wobrwyo ar gyfer y Rhaglen Cyflogaeth i Rieni, a gynhaliwyd yn Ysgol Gwynedd yn y Fflint yn ddiweddar.   

Cynhaliwyd y cwrs am saith wythnos mewn partneriaeth â Delyn Safety UK Ltd. Roedd pedwar ar ddeg o rieni yn bresennol a chyflawnwyd 9 cymhwyster achrededig megis Gwasanaeth Cwsmeriaid, Diogelwch Tân, defnydd diogel o Ddiffoddydd Tân, Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch, Codi a Symud yn Gorfforol, Egwyddorion ac Ymarfer Asesiad Risg, Diogelwch Warws, Diogelwch Ysgolion ac Ysgolion Grisiau, Ymwybyddiaeth Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, Cyfarpar Diogelu Personol, yn ogystal â gweithdy CV wedi’i gynnal gan Cymunedau am Waith a Mwy.  

Mae’r cymwysterau hyn yn werthfawr a bydd hyfforddiant perthnasol yn rhoi'r cyfle i rieni yn yr ysgol fynd i gyflogaeth yn y dyfodol, gyda chefnogaeth Cymunedau am Waith a Mwy.  

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Y Fflint dros Ddatblygiad Economaidd, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae hon yn rhaglen gadarnhaol sy’n cynnig cymorth a chyngor cyn cyflogaeth i helpu pobl fynd yn ôl i waith.  Hoffwn i a’r tîm yn Cymunedau am Waith a Mwy ddymuno’r gorau iddyn nhw wrth iddyn nhw gymryd camau cadarnhaol gyda chymwysterau pellach a chyfleoedd cyflogaeth yn dilyn o'r cwrs hwn.  Maen nhw i gyd yn haeddu clod mawr am eu gwaith caled.”

Meddai Zoe Cottam, Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd yn yr ysgol:

“Mae'r Rhaglen Cyflogaeth i Rieni wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae wedi rhoi'r cyfle i'n rhieni ddysgu sgiliau hanfodol er mwyn iddynt fynd ymlaen i gyflogaeth.  Mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi bod yn allweddol wrth helpu llawer o’n rhieni gyda chefnogaeth un i un yn ein sesiynau galw heibio wythnosol dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi galluogi iddynt ennill cymwysterau, lleoliadau gwaith a chyflogaeth.    Yn bwysicaf oll, mae wedi rhoi hyder iddyn nhw wella eu bywydau. Diolch yn fawr iawn i’r tîm Cymunedau am Waith a Mwy.”