Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect Pontio’r Cenedlaethau yn llwyddiant

Published: 01/04/2019

Llys Gwenffrwd.jpg

Yn sefyll yn y llun, o’r chwith i’r dde: Sandra Stacey, Rheolwr Llys Gwenffrwd, y Cynghorydd Christine Jones, Miss Hodgskin a Mrs Duffy, cymorthyddion dysgu yn Ysgol Maes y Felin, Neil Ayling a Susie Lunt, gwasanaethau cymdeithasol CSFf a Peter Davies, Pennaeth Ysgol Maes y Felin gyda myfyrwyr yr ysgol a phreswylwyr Llys Gwenffrwd.

 

 

 

 

]

 

Yn ddiweddar, ymwelodd Cynghorydd Sir â Chartref Gofal Preswyl Llys Gwenffrwd yn Nhreffynnon i weld llwyddiant y prosiect sy’n dod â’r cenedlaethau ynghyd, gyda phlant ysgol lleol a phreswylwyr hyn y cartref gofal.

Ymwelodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol â’r prosiect cyffrous gydag uwch swyddogion Cyngor Sir y Fflint a staff addysgu o Ysgol Maes y Felin, i ddarganfod mwy am yr hyn sy’n digwydd.  

Mae disgyblion blwyddyn 5 a 6 Ysgol Maes y Felin yn Nhreffynnon, wedi bod yn treulio prynhawn bob wythnos, ers mis Medi, yn gweithio gyda phreswylwyr i greu collage sy'n cael ei arddangos yn y cyntedd, yn ogystal â gweithio ar grefftau a chymryd tro i ddarllen ac adrodd hanesion.  Mae’r prosiect, sy’n ddigwyddiad parhaus bob wythnos, wedi bod yn brofiad gwych i rannu syniadau rhwng yr ifanc a'r rhai hyn.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:

“Mae hwn yn enghraifft arall o’r gofal cymdeithasol gwych sydd ar gael yn Sir y Fflint sydd bellach, yn anffodus, ddim ar gael mewn ardaloedd eraill yn y DU. Rwy’n ymfalchïo yn y ffaith bod Sir y Fflint, er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol cenedlaethol sy'n ein hwynebu, yn parhau i gydnabod pwysigrwydd gwasanaethau gofal cymdeithasol, ac mae prosiectau fel hyn wedi ffynnu, gan sicrhau bod ein pobl leol yn parhau i dderbyn y gwasanaethau hanfodol.”

Yn ystod yr ymweliad, dywedodd y Cynghorydd Jones: 

“Mae’n braf cael y cyfle i weld y gwaith hwn o lygad y ffynnon a siarad gyda’r bobl sydd ynghlwm.  Mae’n amlwg bod y prosiect yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y preswylwyr a’r disgyblion.  Mae gennym nifer o esiamplau o waith tebyg yn digwydd, yn arbennig o amgylch codi ymwybyddiaeth o ddementia. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn cynnig ystod eang o wasanaethau creadigol, hyfforddiant a chefnogaeth, ar gyfer pobl hyn, eu gofalwyr a’r gymuned ehangach.”

Dywedodd Peter Davies, Pannaeth Ysgol Maes Y Felin:

“Fel ysgol, rydym yn rhoi gwerth i waith pontio’r cenedlaethau, rhwng pobl hyn a'n disgyblion.  Mae prosiectau fel hyn yn ffordd o wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl ac mae dod â’r cenedlaethau ynghyd drwy’r cynllun gwych hwn, yn dod a llawenydd a dysgeidiaeth i’r ddwy genhedlaeth, ond yn arbennig i’r plant.”