Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dewch i ddweud eich dweud

Published: 28/04/2014

Dewch i ddweud eich dweud am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn eich cymuned. Ymunwch mewn sgyrsiau â chynrychiolwyr o feddygfeydd, gwasanaethau cymdeithasol i oedolion ar Cyngor Gwirfoddol Lleol a thynnwch sylw at y materion sydd o bwys i chi ddydd Mercher 30 Ebrill yng Nghanolfan Daniel Owen yr Wyddgrug. Mae croeso i bobl alw i mewn rhwng 1pm a 4.30pm i siarad am y gwasanaethau a gynigir yn y gymuned leol. Bydd lluniaeth ar gael hefyd. Am fwy o wybodaeth am y sesiwn cysylltwch â Karen Chambers ar 01352 702571 neu e-bostiwch Karen_Chambers@flintshire.gov.uk