Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd Drafft Gogledd Cymru 2015-2020
Published: 25/11/2014
Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd Drafft Gogledd Cymru 2015-2020
YMGYNGHORIAD
24 Tachwedd 2014 i 5 Ionawr 2015
Mae Cyngor Gwynedd, ar ran y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru, yn cynnal
ymgynghoriad cyhoeddus o 24 Tachwedd 2014 hyd at 5 Ionawr 2015 a fydd yn rhoi
cyfle i’r cyhoedd a budd-ddeiliaid roi sylwadau ar Gynllun Trafnidiaeth Lleol
ar y Cyd Drafft Gogledd Cymru 2015-2020. Mae’r cynllun yn trafod ardaloedd
Cyngor Sir Ynys Môn; Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Cyngor Sir Ddinbych;
Cyngor Sir y Fflint; Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn
gosod eu gweledigaeth i ‘wneud i ffwrdd â’r rhwystrau sy’n atal twf economaidd,
ffyniant a lles drwy ddarparu rhwydweithiau trafnidiaeth diogel, cynaliadwy,
fforddiadwy ac effeithiol.
Gobeithir gwneud hyn drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu isadeiledd
cyfalaf a fydd yn helpu i gyflwyno twf economaidd i ogledd Cymru drwy ddarparu
gwell mynediad i wasanaethau a swyddi drwy eu hymyrraeth lefel uwch.
Cewch weld y Cynllun Drafft yn www.taith.gov.uk/taith-joint-board/consultation/
Mae digwyddiadau ymgynghori’n cael eu cynnal yn y lleoliadau a ganlyn:
· 1 Rhagfyr 2014 – 1pm-6pm Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni,
Ynys Môn, LL77 7TW.
· 2 Rhagfyr 2014 – 1pm-7pm Cyngor Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Ystafell C3, Y
Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SQ
· 3 Rhagfyr 2014 – 1pm-7pm Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Canolfan Fusnes
Conwy, Lôn y Gyffordd, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9XX.
· 10 Rhagfyr 2014 – 12pm-7pm Cyngor Sir Ddinbych, Rhuthun neuadd y dref, Ffordd
Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1AS.
· 12 Rhagfyr 2014 – 1pm-7pm Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Neuadd y Dref,
Wrecsam, LL19 8RN.
· 15 Rhagfyr 2014 – 1pm-8pm Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref yr Wyddgrug,
Neuadd y Dref, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1AB.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael o Siop Gwynedd Caernarfon a Phencadlys Cyngor
Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH,
neu trwy ebostio CTL@gwynedd.gov.uk