Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun tai gofal ychwanegol yn cael cymeradwyaeth

Published: 29/03/2019

Llys Rad March.jpg

Annie Jackson - Clwyd Alyn, Chris Morris - Rheolwr yn Llys Raddington, y Cyng. Christine Jones, Neil Ayling, prif swyddog Cyngor Sir y Fflint, Ed Hughes - Clwyd Alyn, Paul Seymour - Clwyd Alyn a Susie Lunt - Cyngor Sir y Fflint gyda thenantiaid Llys Raddington


 

 

 

 

Mae gofal ychwanegol wedi dod yn fodel poblogaidd o dai arbenigol gyda darpariaeth gofal i bobl hyn yn Sir y Fflint.

Yn ddiweddar, cafodd uwch Gynghorydd y cyfle i ymweld â thrydydd cynllun o’r fath yn y sir, pum mis ar ôl iddo agor ei ddrysau.

Cafodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol, y cyfle i gyfarfod â staff a thenantiaid Llys Raddington, y cynllun tai gofal ychwanegol newydd, werth £10 miliwn, yng nghanol tref y Fflint.

Dywedodd y Cynghorydd Jones:

“Mae’n braf gweld trawsnewidiad canol tref y Fflint, ac mae cynllun newydd Llys Raddington yn rhan mawr o hynny, ac i weld yr effaith gadarnhaol mae’r cynllun yn ei gael ar bobl ar draws Sir y Fflint.

“Mae’n braf bod yma i gyfarfod pobl a darganfod pa mor dda maent wedi ymgartrefu ac yn mwynhau byw yma.   Mae cynlluniau gofal ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth real i fywydau pobl, gan wella darpariaeth gofal i bobl hyn yn y Sir.”

Dywedodd Paul Seymour, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Preswylwyr Clwyd Alyn:

“Mae Llys Raddington yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth gyda’r awdurdod lleol, sy’n gwneud gwahaniaeth mawr, nid yn unig i fywydau preswylwyr a’u teuluoedd, ond i’r gymuned ehangach yn y dref.”

Mae’r cynllun yn cynnwys 73 fflat un a dwy ystafell wely, hunan gynhwysol, ar gyfer pobl 60 oed a hyn, yn ddibynnol ar feini prawf cymhwyso.  Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys bwyty, ardaloedd cymunedol ac ystafelloedd gweithgareddau, yn ogystal â thir wedi’i dirlunio, maes parcio a stordy sgwter symudedd, gyda chefnogaeth gofal 24 awr ar y safle i’r rhai sydd ag anghenion wedi’u hasesu. Mae ystafelloedd ymolchi â chymorth ychwanegol, ac mae lolfa ar y nen, sef heulfan ar y to.

Mae Llys Raddington yn ddatblygiad partneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Llywodraeth Cymru a Clwyd Alyn. Mae elfennau tai y cynllun yn cael eu rheoli gan Clwyd Alyn, a darperir cymorth gofal cartref unigol gan yr Awdurdod Lleol.