Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dragons’ Den Cymru

Published: 26/11/2014

Yn ddiweddar, manteisiodd saith entrepreneur brwdfrydig ar arbenigedd Dreigiau Sir y Fflint. Roedd pumed digwyddiad Dragons’ Den y sir yn rhan o Siop Wybodaeth Mentrau Cymunedau yn Gyntaf yng Ngholeg Cambria, Cei Connah. Roedd y Dreigiau yn cynnwys Askar Sheibani, Prif Weithredwr Comtek, Christine Sheibani, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Comtek, Mike Scott o Mike Scott Associates, Dave Fields, Ymgynghorwyr a Mentoriaid Busnes Mentrau Bach a Chanolig DFS4, ac Adam Butler o Easy On Line Recruitment. Ochr yn ochr â’r digwyddiad Dragons’ Den cafwyd Arddangosfa Entrepreneur gyda detholiad o fusnesau bychain newydd sy’n aelodau o Glwb Menter Sir y Fflint ac sydd wedi eu cefnogi au mentora i roi eu syniadau busnes ar waith. Y busnesau hynny oedd: So Taraesque (Tara Hughes, ffotograffydd portreadau arbrofol sydd wedi bod yn aelod rheolaidd or clwb ers ei gychwyn ym mis Ionawr 2013). Yarn & Scissor Crafts (busnes Baerbel Persson-Hughes sy’n dysgu sgiliau crefft i grwpiau o bob oed mewn modd cymdeithasol). Say It With Style (Callum Kennedy-Hulme, awdur a bardd syn cynnig barddoniaeth arbennig ac unigryw ar gyfer achlysuron arbennig). Crwban Design (eitemau personol unigryw ar gyfer y cartref gan Rachel Winstanley ). Ddraig Dragon (printiau dylunio graffeg gan Tony Roberts ). Taylors Dance Inspiration (menter newydd Lisa Francis syn rhoi cyfle i bobl, gan gynnwys pobl anabl, i gael profiad dawns er eu lles cymdeithasol ac emosiynol). A Gaz Johnson, syn gwneud ffigurau i raddfa ac yn eu gwerthu ar-lein. Cefnogwyd y digwyddiad hefyd gan yr Arglwydd Barry Jones, Carl Sargeant AC, Mark Tami AS, David Hanson AS, a chynghorwyr lleol, y Cynghorydd Paul Shotton a’r Cynghorydd Ian Dunbar. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd: “Roedd ein pumed digwyddiad Dragons’ Den yn llwyddiant ysgubol. Dyma un ffordd y mae Cymunedau yn Gyntaf yn rhoi cymorth ac ymrwymiad i bobl syn dechrau busnes. Maen galonogol gweld yr amrywiaeth o fusnesau bach sy’n cychwyn yn yr ardal.