Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cerdded i Barc Gwepra

Published: 12/04/2019

P'un a ydych chi’n mynd â’ch ci am dro, yn rhedeg ras y parc, yn ymweld â’r maes chwarae gyda'ch teulu neu'n cyfarfod â ffrindiau am ginio, heb os nac oni bai, mae Parc Gwepra yn rhywle arbennig y mae pobl leol yn ogystal ag ymwelwyr o du allan i’r sir yn dewis treulio eu hamser hamdden. Fodd bynnag, yn ystod gwyliau ysgol a gwyliau cyhoeddus, mae'r prysurdeb yn gallu cael effaith ar y parc a'r ardal leol o ganlyniad i gynnydd yn y pwysau traffig a pharcio, ac mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn annog pobl i fod yn ystyriol wrth ddefnyddio ein mannau naturiol a’n parciau gwledig.  

Meddai Tom Woodall, Pennaeth Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol;

“Rydym yn falch iawn bod Parc Gwepra mor boblogaidd ac yn falch o’r cyfleoedd arbennig y mae'r parc yn eu cynnig i bobl fwynhau'r ardal naturiol boblogaidd ynghyd â'r cyfleusterau hamdden y mae'n eu darparu, ond mae'n rhaid i ni sicrhau nad ydym yn rhoi gormod o bwysau ar yr adnodd cymunedol pwysig hwn. 

“Byddai teithio i Barc Gwepra heb eich cerbyd, os ydych chi'n gallu gwneud hynny, nid yn unig yn lleihau lefelau CO2 a llygredd swn, yn ogystal â lleihau ôl troed carbon, ond bydd hefyd yn helpu i leihau effaith y lefelau traffig cynyddol yn yr ardal, sy'n gallu cael effaith ar brofiad pobl yn y parc yn ogystal ag achosi problemau i drigolion lleol. 

Dywedodd y Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad: 

“Mae treulio amser yn yr awyr agored a mwynhau'r amgylchedd naturiol yn hanfodol ar gyfer  ein lles meddyliol a chorfforol, ac mae Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor yn awyddus i gynnal a datblygu mannau naturiol a pharciau gwledig i sicrhau profiadau dymunol i bawb, a gall pob un ohonom ni helpu i gyflawni hynny. 

“Os ydych chi’n bwriadu ymweld â Pharc Gwepra yn ystod gwyliau’r ysgol neu dros Wyl y Banc, ystyriwch gerdded neu seiclo yno, a meddyliwch am y buddion i chi ar lefel bersonol yn ogystal â’r buddion i'r parc a'r trigolion lleol.  Fel arall, gallwch ystyried defnyddio’r maes parcio ddeg munud i ffwrdd ar droed ar waelod Wepre Drive. Byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac yn helpu i leddfu’r pwysau parcio yn y parc ac ar ffyrdd lleol. 

“Mae llefydd hyfryd eraill y gellir ymweld â hwy yn Sir y Fflint, megis Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas a Pharc Gwledig Waun-y-Llyn ar Fynydd yr Hôn, neu beth am fynd am dro ar hyd rhan o Lwybr Arfordir Cymru drwy Sir y Fflint, lle y gallwch chi weld Castell y Fflint, Porthladd Maes Glas a Thalacre.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, syniadau am lwybrau cerdded a manylion am weithgareddau cefn gwlad eraill ar wefan y cyngor: www.flintshire.gov.uk