Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Siop Stori Talacre 

Published: 15/04/2019

Dydd Sadwrn 20 Ebrill – Dydd Sul 29 Ebrill

Canolfan Gymunedol Talacre, Gamfa Wen, Talacre, CH8 9RT

10am-4pm bob dydd

Rydym yn dathlu Talacre a’i bobl drwy arddangosfa yn ymwneud â’i hanes, ei straeon a’i bobl. Os oes gennych chi atgofion neu bethau cofiadwy o Dalacre, dewch draw i rannu gyda ni. Bydd paneidiau o de, archif lluniau, pethau a straeon i fwynhau. Mae croeso i bawb. 

Y Siop Stori yw’r rhan gyntaf o brosiect ‘Talacre Ddoe a Heddiw’, a gaiff ei arwain gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, a’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth Loteri Cenedlaethol, Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog a Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru.

I baratoi ar gyfer y Siop Stori, mae’r tîm dan arweinyddiaeth Lisa Heledd Jones o Storyworks, wedi bod yn casglu straeon a lluniau gan bobl leol.

“Fe symudom i’r Warren o Walton yn Lerpwl pan oeddwn yn ddwy oed, i ddianc rhag y bomio. Roeddem yn byw mewn byngalo pren yr oedd dad wedi’i adeiladu. Roedd posib clywed yr awyrennau uwchben yn y nos, wrth iddynt ddod o Iwerddon i fyny'r aber tuag at Lerpwl, ond nid oedd hyn yn effeithio dim arnom ni, gan ein bod ni mewn nyth bach ein hunain. Roeddem yn ddiogel, ond eto roedd rhyfel o’n cwmpas ni. Er ei fod yn swnio’n od, gan fod rhyfel yn digwydd, ond roedd yn fywyd braf." Anita Marsden

“Cefais fy ngeni yn 1948 ac roeddwn yn byw yn y Warren nes i mi droi'n 20. Y twyni a’r traeth oedd fy maes chwarae, yn ogystal â’r coed yn Tyn-y-Morfa a’r caeau tu ôl i Dy Warren (lle'r oedd fy nain yn byw).

“Roedd y Warren wedi’i boblogi gan gymysgedd o drigolion ac ymwelwyr yr haf, a oedd yn dod o Lerpwl, Manceinion ac ardaloedd y ‘Potteries’. Daethom i adnabod nifer o ymwelwyr rheolaidd ac yn aml yn chwarae gyda’n gilydd fel plant. Fe ddysgon nhw am gefn gwlad tra dysgom ni am y trefi a’r dinasoedd. 

“Roedd y traeth yn llawn bwledi gwag ar ôl ei gyfnod fel maes tanio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roeddem yn eu casglu, gan greu beltiau i chwarae 'cowbois ac indians'." Jack Jones

“Roedd tyfu i fyny ar y Warren yn wych. Roedd gennym ryddid! Nid oedd unrhyw gyfleusterau yn y byngalos - nid oedd gennym ddwr na thrydan, dim ond lampau paraffin - ond roedd yn lle hudolus.” John Larner

“Roedd Talacre yn gyrchfan gwyliau ac roedd gennym oll ein swyddi. Roeddwn yn arfer mynd i gwrdd â phobl o'r trên - roedd gan Dalacre orsaf drenau'r dyddiau hynny - a byddwn aros yn awyddus wrth i'r trên gyrraedd ac wrth i’r teuluoedd lifo allan. Roeddwn yn ymwybodol iawn o’r holl acenion gwahanol - bob wythnos neu bob mis roedd yr acenion yn newid, y dyddiau hynny, roedd gan y ffatrïoedd yn nhrefi diwydiannol Gogledd-Orllewin Lloegr a Chanolbarth Lloegr wythnosau gwahanol ar gyfer eu gwyliau. Rwyf yn cofio bod y rhai cyntaf bob amser o'r Potteries. Roedd yr acenion hynny’n dynodi dechrau tymor prysur yr haf yn cario bagiau!” Bryn Jones

Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r Siop Stori, cysylltwch â Lisa Heledd Jones ar 07475931831 neu e-bost: lisa@storyworksuk.com.