Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansiad Sir y Fflint Mewn Busnes 2019 

Published: 16/04/2019

Mae digwyddiad busnes pwysicaf y sir, Sir y Fflint Mewn Busnes, yn dathlu ei drydedd flwyddyn ar ddeg gyda lansiad rhaglen 2019 mewn digwyddiad rhwydweithio sydd i’w gynnal nos Fawrth, 14 Mai.

Mae Sir y Fflint mewn busnes wedi dod yn un o’r digwyddiadau pwysicaf o'i fath yn y rhanbarth, gan ddenu tua 2,000 o gynrychiolwyr busnesau bob blwyddyn. Mae'n cefnogi'r gymuned fusnes yn y sir ac, yn gynyddol, y rhanbarth ehangach, i hyrwyddo eu cwmnïau, i ddatblygu cyfleoedd masnachu ac i godi proffil yr ardal fel lle i fuddsoddi ynddo. 

Gwahoddir yr holl fusnesau lleol i ddod draw i ddarganfod mwy am Sir y Fflint Mewn Busnes a’r digwyddiadau fydd cael eu cynnal yn ac o amgylch y Sir dros y flwyddyn nesaf, wrth fwynhau canapés a choctels yn harddwch Gwesty Soughton Hall yn Llaneurgain.

Bydd Gwobrau Busnes Sir y Fflint, mewn cydweithrediad ag AGS Security Systems, hefyd yn cael eu lansio a bydd gwybodaeth am y categorïau, sut i gymryd rhan a gwefan newydd sbon y Gwobrau Busnes yn cael ei rhannu ar y noson.

Bydd y Seremoni Wobrwyo fythol boblogaidd yn digwydd yng Ngwesty Soughton Hall ar 18 Hydref.  

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae Sir y Fflint Mewn Busnes yn cynnig nifer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ar y cyd a’n partneriaid sy’n ymwneud ag amrywiaeth o bynciau diddorol ac yn cefnogi datblygiad economaidd ein rhanbarth.”

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd:

“Mae Sir y Fflint Mewn Busnes yn parhau i fynd o nerth i  nerth,  gan ddatblygu'r rhaglen a chynnal digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i annog mwy o fusnesau fyth i gymryd rhan.

“Hoffwn annog pawb i ddod draw i'r lansiad eleni i weld beth fydd yn digwydd dros y 12 mis nesaf."

I gadw lle yn y digwyddiad lansio, a gynhelir am 5pm, dydd Mawrth 14 Mai yng Ngwesty Soughton Hall, ewch i’n tudalen Eventbrite: eventbrite.co.uk/e/flintshire-in-business-launch-tickets-56557928286