Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Published: 16/04/2019

Dweud eich dweud ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref Cyngor Sir y Fflint

Rhwng 15 Ebrill a 17 Mai 2019 mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gwahodd preswylwyr i ddweud eu dweud am Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref Sir y Fflint.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gwirio sut y caiff arian cyhoeddus ei ddefnyddio yng Nghymru ac mae angen eich adborth er mwyn gallu llunio adroddiad a fydd yn helpu'r Cyngor i ddeall arferion ac anghenion ailgylchu pobl, yr hyn mae'n ei wneud yn dda ar hyn y gall ei wneud yn well.  Ni fydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnwys ymatebion unigol yn ei adroddiad ond fe all gynnwys sylwadau dienw o'r adborth mae'n ei dderbyn. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Fe fyddem yn annog cynifer o bobl â phosibl i gymryd rhan yn yr arolwg hwn.  Mae’n bwysig i ni ein bod yn deall safbwyntiau ein preswylwyr. Bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal nifer o arolygon gyda phobl sy'n ymweld â'n canolfannau ailgylchu, ond peidiwch â phoeni os na chysylltir â chi fe allwch ddweud eich dweud drwy gwblhau'r holiadur ar-lein."

Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 5 munud i'w gwblhau a bydd yr holl ymatebion a gaiff eu derbyn erbyn 17 Mai yn cael eu defnyddio gan Swyddfa Archwilio Cymru wrth iddo baratoi ei adroddiad.

Os hoffech wybodaeth bellach am y gwaith hwn neu sut y bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn ymdrin â'ch gwybodaeth, cysylltwch â Gwilym.bury@wao.gov.uk neu ffoniwch 029 2032 0500.