Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Enillydd Medal Arian yng Ngemaur Gymanwlad

Published: 19/01/2015

Mae Sally Peake, a enillodd Fedal Arian yng Ngemau’r Gymanwlad, wedi ymweld â Neuadd y Sir lle cafodd ei llongyfarch yn ffurfiol am ei llwyddiant. Croesawyd Sally gan Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin, YH, ac Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton. Llwyddodd Sally, o Benarlâg, i ennill ei Medal Arian yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow y llynedd am lofnaid gyda’r polyn. Yn ogystal â chystadlu’n rhyngwladol, mae Sally hefyd yn gweithio fel ffisiotherapydd gyda’r nos er mwyn cael amser i hyfforddi yn ystod y dydd. Mae Sally’n parhau i weithio gan nad yw’n derbyn unrhyw gyllid gan Athletau’r DU er ei bod yn cael grant bach gan Athletau Cymru. Mae’n chwilio am arian ar hyn o bryd er mwyn prynu polion newydd ar ôl i’w hen bolion fynd ar goll yn ystod taith awyren ychydig cyn Gemau’r Gymanwlad. Cafodd fenthyg polion i gystadlu yn y Gemau hynny. Meddai’r Cadeirydd, y Cynghorydd Glenys Diskin YH: “Roedd yn anrhydedd ac yn bleser pur cael croesawu Sally i Neuadd y Sir. Rwyf wedi adnabod Sally a’i theulu ers 30 o flynyddoedd ac maent yn deulu hyfryd. Mae ennill medal arian yng Ngemau’r Gymanwlad yn gyflawniad mawr – hyd yn oed yn fwy rhyfeddol yw ei bod wedi defnyddio polion rhywun arall i wneud hynny. Rwy’n gobeithio y gallwn ei helpu i godi ei phroffil a’i helpu i gael rhywfaint o gyllid.” Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae Sally yn ysbrydoliaeth – mae’r sir yn eithriadol o falch ohoni. Mae ei hymroddiad, ei phenderfyniad a’i llwyddiannau’n drawiadol iawn. Mae Sally’n haeddu cystadlu â’i pholion ei hun. Byddai’n wych pe bai modd dod o hyd i nawdd iddi ac rwy’n annog busnesau lleol i gamu ymlaen a darparu unrhyw gymorth posibl i Sally. Mae Sally bellach yn edrych ymlaen at Rio a Gemau nesaf y Gymanwlad. Ychwanegodd: Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Gyngor Sir y Fflint am y cymorth a’r gydnabyddiaeth yr wyf wedi’u cael. Gobeithio fy mod wedi ysbrydoli athletwyr ifanc gogledd Cymru i ddilyn eu breuddwydion a’u huchelgeisiau hefyd. Os gall unrhyw un fy helpu, e-bostiwch fi ar salimali82@hotmail.com. Llun O’r chwith i’r dde, mae’r Cynghorydd Aaron Shotton, Sally Peake, Mike Welch (Cyngor Sir y Fflint), Y Cynghorydd Glenys Diskin a Mrs Christine Peake, mam Sally.