Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (PTGGGC) Parc Adfer

Published: 14/05/2019

Derbyniodd Aelodau o Gabinet y Cyngor ddiweddariad am y cynnydd a pharodrwydd Parc Adfer, gwaith prosesu gwastraff domestig nad oes modd ei ailgylchu (a gaiff ei adnabod fel gwastraff gweddilliol), ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ar gyfer comisiynu mewn cyfarfod ddydd Mawrth 14 Mai.

Fe ddyfarnwyd y cytundeb i Wheelabrator Technologies Inc (WTI) i ddatblygu’r cyfleuster ym mis Rhagfyr 2016. Dechreuodd y gwaith o adeiladu Parc Adfer yn Ionawr 2017 ac mae nawr bron â'i gwblhau. Ym Mehefin 2019 mae disgwyl i'r cyfleuster ddechrau derbyn a phrosesu gwastraff gweddilliol a gaiff ei gasglu gan y pum awdurdod partner, sef cynghorau Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae’r prosiect wedi ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwyddo draw ac yn dilyn cyflwyno Achos Busnes Terfynol manwl ymrwymodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth ariannol ar gyfer y cytundeb gyda gwerth i’r Bartneriaeth o dros £140m dros gyfnod y cytundeb sef 25 mlynedd.

Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:

“Bydd y cyfleuster newydd yn darparu proses fodern, ddiogel a chost effeithiol ar gyfer trin gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn unol â pholisi amgylcheddol cenedlaethol a bydd yn helpu'r pum cyngor i gwrdd â'u targedau cyfeirio gwastraff ac ailgylchu tra'n darparu gwasanaeth trin gwastraff gweddilliol sefydlog a hirdymor ar gyfer y Bartneriaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad; 

“Mae gwaith wedi bod ar y gweill o fewn Sir y Fflint fel awdurdod arweiniol a’r awdurdodau partner eraill ers peth amser i baratoi i'w gwastraff gweddilliol i fynd i Barc Adfer.

“Mae adeiladu Parc Adfer wedi ei reoli’n dda ac mae’r safonau iechyd a diogelwch ar y safle wedi eu cynnal i lefel uchel, a chaiff hyn ei adlewyrchu gyda'r Cyngor Diogelwch Prydeinig yn rhoi 5 seren i'r prosiect yn dilyn archwiliad diweddar."