Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adfywio Canol Trefi

Published: 14/05/2019

Cymeradwyodd Cabinet y Cyngor adroddiad sydd wedi’i anelu i gefnogi adfywio canol trefi yn Sir y Fflint. 

Mae canol trefi ledled y DU yn wynebu amodau economaidd heriol sydd yn effeithio ar eu cynaliadwyedd. Mater arall sydd wedi ychwanegu at y broblem yn enwedig yn Sir y Fflint, ydi’r ffaith fod gwasanaethau manwerthu a bancio yn gadael y stryd fawr gan effeithio ar eu maint a'u bywiogrwydd.

Bwriad cyfres o gynigion ar gyfer canol trefi yn Sir y Fflint ydi cynyddu amrywiaeth y defnydd yng nghanol ein trefi, gan gryfhau rôl grwpiau budd-ddeiliad lleol a chefnogi busnesau i addasu a chystadlu’n fwy effeithiol, ac mae’r rhain yn cynnwys;

  • datblygu cynlluniau hir dymor gyda budd-ddeiliaid ym mhob tref;
  • buddsoddi mewn canolfannau gwasanaethau rheng flaen mewn lleoliadau canol tref i wella mynediad i gwsmeriaid at wasanaethau a chynyddu nifer yr ymwelwyr; 
  • cefnogi prosiectau budd-ddeiliaid lleol gan gynnwys mentrau treftadaeth; 
  • gwelliannau amgylcheddol a’u hyrwyddo’n lleol;
  • arwain ac ymateb i ddiddordeb yn y farchnad yng nghanol trefi; 
  • darparu grantiau eiddo ac ychwanegiadau strydlun i wellaymddangosiad;

 Byddai busnesau hefyd yn cael cymorth i addasu i’r hinsawdd economaidd newidiol drwy:

  • cefnogaeth i rwydweithio busnes a dysgu ar y cyd;
  • darparu cyllid grant neu fenthyciad ar gyfer datblygu eiddo (fel y bo'r adnoddau'n caniatáu); 
  • gwella argaeledd a fforddiadwyedd cysylltiad band eang cyflym; 
  • cyfeirio busnesau at raglenni cymorth Llywodraeth Cymru, yn enwedig ar gyfer sgiliau digidol. 

Byddai cefnogaeth yn cael ei roi, lle bo’n hyfyw i greu Ardaloedd Gwella Busnes ac mae dichonolrwydd er mwyn datblygu Ardal Gwella Busnes yng nghanol tref yr Wyddgrug yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd a Thai:

“Mae canol trefi angen adlewyrchu’r realiti newydd mai cyfran fechan o wariant lleol sy’n cael ei wario yng nghanol trefi a bod rolau megis darparu gwasanaeth, gofod ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a gofod byw yn gynyddol bwysig. 

“Mae’r Cyngor wedi buddsoddi adnoddau sylweddol yn cryfhau arweinyddiaeth gymunedol leol, er enghraifft gweithio gyda budd-ddeiliaid Treffynnon ar gynllun prawf i alluogi ceir i deithio ar hyd y stryd fawr, cefnogi Cyngor Tref Bwcle i ddatblygu cynllun gweithredu hir dymor, a dod â budd-ddeiliaid y Fflint ynghyd i arwain y gwaith o adfywio’r dref. 

“Mae cyflwyno Gweledigaeth Dwf Gogledd Cymru, trwy gam cychwynnol prosiectau cyfalaf y Fargen Twf a rhaglenni ehangach o waith yn golygu bod yna botensial i ddod â manteision sylweddol i ganol ein trefi.”