Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dewch i farchnad yr Wyddgrug!

Published: 10/05/2019

Mae Gwasanaeth Marchnadoedd Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda masnachwyr marchnad yr Wyddgrug i ddangos beth sydd gan farchnad fwyaf Gogledd Cymru i’w gynnig.

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae ein gwasanaeth marchnadoedd yn cefnogi masnachwyr marchnad yr Wyddgrug i hyrwyddo’u busnesau.  Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi creu deunydd hyrwyddo fel taflenni a nifer o ffilmiau byrion sydd i’w gweld ar ein gwefan.  Mae’r farchnad yn dal i ffynnu ac yn cyfrannu at fywiogrwydd cymdeithasol ac economaidd yr Wyddgrug ac mae’n dod â mwy o bobl i’r dref sydd o fudd i'r busnesau a’r gwasanaethau eraill.”

Mae'r masnachwyr hefyd yn defnyddio TripAdvisor, Facebook, Instagram a Twitter i hyrwyddo marchnad yr Wyddgrug. I weld y ffilmiau a lawrlwytho’r daflen, ewch i:  

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/LeisureAndTourism/Tourism/Home.aspx

 

 Mold-Markets-Gingerpixie-1.jpg          Mold-Markets-Gingerpixie-2.jpg

 

Mold-Markets-Gingerpixie-8.jpg

    Jam stall man - WA2U5431.jpg