Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Menter gymdeithasol Sir y Fflint yn ennill gwobr

Published: 10/05/2019

Mae menter gymdeithasol leol, sy’n aelod o Glwb Menter Shotton sy’n cael ei redeg gan Gymunedau am Waith a Mwy, wedi ennill gwobr yn ddiweddar.

Mae Cobra Life CIC, academi crefftau ymladd, wedi cael £2,500 gan Heddlu a Chymunedau Gyda'i Gilydd (PACT) am eu gwaith â phobl ifanc a'r gymuned ar draws Sir y Fflint. Bydd yr hwb ariannol hwn yn cael ei ddefnyddio i brynu cyfarpar i wella eu cyfleuster newydd yn 75A Chester Road, Shotton.

Mae rhaglenni Cobra Life wedi’u datblygu’n benodol ar gyfer plant dros 3 oed, gan ddefnyddio crefftau ymladd fel dull o ddatblygu’r sgiliau, y gallu a’r hyder sydd ei angen i ddelio â nifer o sefyllfaoedd ‘mewn argyfwng'.

Dywedodd Gavin Eastham, rheolwr Cobra Life CIC:

“Mae Clwb Menter Sir y Fflint wedi fy nghefnogi gyda chyngor ar gyrsiau a allai fod o fudd i’r busnes ac mae wedi rhoi cyfleoedd rhwydweithio i mi er mwyn i mi allu datblygu.  Mae ennill y wobr wedi rhoi hwb go iawn i fy hyder i gan ei bod yn cydnabod y newidiadau rydw i’n ceisio eu gwneud er mwyn pobl Sir y Fflint. Rydw i wedi gweld newid mawr ym mywydau pobl sy’n dod i’r academi yn Shotton.” 

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae hyn yn newyddion gwych ac yn dangos beth sy’n gallu cael ei gyflawni pan mae rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy y Cyngor yn cefnogi mentrau cymdeithasol newydd ac yn eu helpu nhw i dyfu nes maen nhw wir yn gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.  Mae’r wobr yn haeddiannol iawn.”

Ers agor yn 2018, mae Cobra Life CIC wedi mynd o nerth i nerth ac fe enillodd y Dragon’s Den yn Arddangosfa Fusnes Sir y Fflint fis Tachwedd diwethaf, gan ennill gwobr o £1,000.

Mae Cobra Life ar hyn o bryd yn gweithio mewn sawl ysgol yn Sir y Fflint; Ysgol Sychdyn, Ysgol Gynradd Golftyn, Ysgol Gynradd Queensferry ac Ysgol Trelogan i gynnal eu rhaglen “Success for Life”, rhaglen ddatblygu i blant ifanc yn yr ysgol, yn ogystal â darparu sesiynau hunanamddiffyn i ferched yn unig yn yr academi.

Mae dau Glwb Menter yn Sir y Fflint – un yn y Ganolfan “Place for You”, Rowleys Drive, Shotton ac un yng Nghanolfan Fusnes Maes Glas.  Os hoffech gofrestru i fod yn unrhyw un o’r ddau glwb neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Beverly Moseley ar beverly.moseley@flintshire.gov.uk neu 01352 704430.

Mae PACT, gan weithio’n agos gyda Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn rheoli Cronfa Deddf Eiddo’r Heddlu, sy'n dod o arian wedi'i atafaelu yn gysylltiedig â throseddau.  Mae’r arian yn cael ei rannu ymysg grwpiau cymunedol yn y chwe sir yng Ngogledd Cymru.

 

Cobra Life.jpg

 

 Disgyblion o Cobra Kids a Junior Cobras, 3-12 oed