Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi gwasanaeth bws newydd

Published: 16/05/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael gwybod y bydd gwasanaeth bws newydd o’r enw “rhif 9” yn dechrau gweithredu rhwng Canolfan Siopa Cei Connah a Pharc Manwerthu Brychdyn o 20 Mai 2019. 

Bydd y gweithredwr bws lleol, P&O Lloyd, yn cynnal y gwasanaeth ac yn cymryd lle Gwasanaeth Arriva Rhif 12 yn rhannol, a ddaeth i ben ym mis Ebrill.   Bydd y llwybr yn gwasanaethu cymunedau Cei Connah, Shotton, Aston, Mancot, Sandycroft, Manor Lane a Brychdyn gan ddarparu mynediad at Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy. Mae amserlen y gwasanaeth ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint neu drwy Traveline Cymru. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 

 “Yn dilyn dod â gwasanaeth Arriva rhif 12 i ben, mae sawl un yn Sir y Fflint wedi mynegi eu bod yn bryderus ac yn ofni iddynt gael eu hynysu heb wasanaeth bws rheolaidd. Rydym yn croesawu'r newyddion bod P&O Lloyd yn dechrau'r gwasanaeth Rhif 9 ac rwyf yn annog pobl i gefnogi'r gwasanaeth er mwyn sicrhau ei gynaliadwyedd i’r dyfodol.”