Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif eto?

Published: 29/05/2019

My Account Cym.jpgMae Cyngor Sir y Fflint  wedi cyflwyno cyfrif i breswylwyr a chwsmeriaid i'w galluogi i gael mynediad i nifer o wasanaethau ar-lein.

Os hoffech weld pryd fydd eich bin yn cael ei gasglu neu gael y manylion cyswllt ar gyfer eich cynghorydd lleol ar-lein, yna Fy Nghyfrif, y cyfrif newydd gan y Cyngor, yw’r union beth yr ydych ei angen a gallwch wneud popeth ar adeg ac mewn lle sydd fwyaf addas i chi.

Mae’n gyflym ac mae’n hawdd cofrestru.  Ewch i siryfflint.gov.uk/Fy-Nghyfrif a chofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif nawr! 

Dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod bydd y Cyngor yn ehangu'r gwasanaethau sydd ar gael i breswylwyr Sir y Fflint drwy Fy Nghyfrif a bydd yn rhoi gwybod i chi pan ddaw pethau newydd arlein. 

 

 

Os ydych yn denant ty cyngor byddwch yn gallu: 

  • gweld eich balans rhent a gwneud taliadau arlein
  • gweld ac olrhain cynnydd ceisiadau am atgyweiriadau 
  • gweld eich ceisiadau presennol 
  • gweld y wybodaeth am eich cyfrif, fel dyddiadau trin y system nwy a manylion cyswllt

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

“Fy nghyfrif fydd eich rhan bersonol chi o’n gwefan a gallwch olrhain cynnydd unrhyw geisiadau a wneir arlein. Byddwch yn gallu cael mynediad i wasanaethau'r cyngor 24 awr y dydd, o foethusrwydd eich cartref eich hun neu wrth fynd o le i le gyda'ch dyfais symudol.

“Drwy greu cyfrif arlein bydd yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn bwydo i system ganolog sy'n ein galluogi ni i brosesu eich cais yn llawer cynt. Bydd hyn yn eich galluogi i weld sut rydym yn ymdrin â’ch cais.

“Peidiwch â phoeni os nad ydych eisiau cael mynediad i wasanaethau’r cyngor yn y ffordd yma, gallwch barhau i wneud pethau dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn un o Ganolfannau Cysylltu'r Cyngor. 

“Os hoffech roi cynnig arni ond yr hoffech gymorth er mwyn dechrau ewch i un o Ganolfannau Cysylltu’r Cyngor ac fe fyddant yn gallu eich helpu i gychwyn pethau.”