Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith ffordd wedi'i gyhoeddi

Published: 15/05/2019

Mae Gwasanaeth Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu cyflawni gwaith ailwynebu a gwaith cysylltiedig ar B5129 Sandycroft ar Chemistry Lane/Mancot Lane, a bydd goleuadau traffig yn dechrau Dydd Gwener 17 Mai 2019, am oddeutu wythnos (yn ddibynnol ar y tywydd).

Er mwyn hwyluso’r gwaith ailwynebu, byddwn yn cau’r ffordd ar Chemistry Lane a Mancot Lane gyda llwybr gwyro wedi’i arwyddo.  Bydd B5129 Chester Road yn gweithredu o dan system oleuadau traffig dwy ffordd.

Hoffai Cyngor Sir y Fflint a’n contractwr Roadway Civil Engineering Cyf ymddiheuro am unrhyw oedi ac amhariad a allai gael ei achosi yn sgil y gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn a byddwn yn cwblhau’r gwaith mor sydyn â phosibl.