Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyngor yn Ennill Gwobr Tai
Published: 26/11/2014
Mae Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEW Homes), cwmni tai fforddiadwy Cyngor
Sir y Fflint, wedi ennill Gwobr Tai Cymru fawreddog.
Enillodd Sir y Fflint wobr Syniad Newydd y Flwyddyn am fod yr awdurdod cyntaf
yng Nghymru i sefydlu ei gwmni tai ei hun. Trefnwyd y gwobrau gan y Sefydliad
Tai Siartredig ac fe aeth y Cyngor benben â thri phrosiect arall.
Wedi ei gynllunio i ymateb ir heriau a brofir gan drigolion wrth gael mynediad
at dai fforddiadwy, mae NEW Homes wedi ei sefydlu gan y Cyngor i gynyddur
opsiynau tai sydd ar gael i drigolion. Mae’n cynnig nifer o wasanaethau rheoli
tai wedi eu teilwra sydd wedi eu cynllunio i gynyddu nifer ac ansawdd y tai
fforddiadwy yn y sir.
Yn ogystal â gosod eiddo, mae NEW Homes hefyd yn rhedeg ystod o gynigion ar
gyfer landlordiaid sydd i gyd yn cynnwys gwasanaethau parod i denantiaid’.
Maer cwmni yn cynnig gwasanaeth gosod a rheoli eiddo a reolir yn llawn yn
ogystal â chyfle unigryw i berchnogion tai dros 55 oed i brydlesu eu heiddo i’r
cwmni a chael mynediad at lety cyngor addas.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd NEW Homes:
“Rwyf wrth fy modd bod Sir y Fflint wedi ei chydnabod yn genedlaethol am ei
gwaith arloesol wrth fynd ir afael â materion tai fforddiadwy ei thrigolion.
Sefydlwyd NEW Homes i ddarparu dewis tai amgen a fforddiadwy i bobl leol nad
ydynt yn gallu fforddio rhenti landlordiaid preifat neu’n gymwys i gael ty
Cyngor. Mae llwyddiant y cwmni yn ei flwyddyn gyntaf yn galonogol iawn.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai: “Rydym nin falch iawn o
ennill y wobr yma. Mae NEW Homes yn ateb arloesol ir problemau a wynebir gan
lawer o deuluoedd nad ydynt yn gallu fforddio rhentir farchnad ond nad ydynt
chwaith yn gymwys i gael tai cyngor. Rydym nin falch bod y syniad wedi ei
gydnabod ar y lefel broffesiynol uchaf.
Derbyniodd y tîm eu gwobr mewn seremoni ddydd Gwener 21 Tachwedd yn The Vale
Resort, Bro Morgannwg.
I gael rhagor o wybodaeth am y cwmni ar gwasanaethau a gynigir ewch i wefan
NEW Homes www.northeastwaleshomes.co.uk neu eu ffonio ar 01352 701400.
Delwedd:
Disgrifiad: O’r chwith i’r dde yn y blaen: y Cyng. Bernie Attridge, y Cyng.
Helen Brown, Colin Everett (Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint), Y Cyng.
Glenys Diskin YH (Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint), Clare Budden (Prif Swyddog
Cymuned a Menter) ac aelodau or Tîm Tai .