Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Rhwydweithio Menter Gymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn llwyddiant

Published: 22/05/2019

 

Cyflwynodd Cyngor Sir y Fflint a Busnes Cymdeithasol Cymru digwyddiad rhwydweithio menter gymdeithasol yn y sir yn ddiweddar.

Cafodd Digwyddiad Rhwydweithio a Rhannu Gwybodaeth Busnes Cymdeithasol Gogledd Ddwyrain Cymru ei drefnu mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru, a’i gynnal gan Gwmni Buddiannau Cymunedol Hands Across Delyn, sef menter gymdeithasol wedi’i leoli yn Sir y Fflint sy’n darparu gofod cyfarfod fforddiadwy ar gyfer sefydliadau â phwrpasau cymdeithasol.

Fe wnaeth y 45 person a fynychodd y digwyddiad fwynhau cyfres o siaradwyr diddorol, gan gynnwys Neil Ayling, Prif Swyddog dros Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, a drafododd y sector menter gymdeithasol yn Sir y Fflint. 

Rhoddodd Glenn Bowen, Canolfan Cydweithredol Cymru, ganlyniadau ymarfer mapio menter gymdeithasol a gynhaliwyd gan  y Canolfan trwy eu rhaglen gefnogi Busnes Cymdeithasol Cymru, wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a ERDF, sy’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru. 

Bu Carol Williams, Busnes Cymru, yn chwalu rhai o’r mythau sy’n ymwneud â Gwneud Treth yn Ddigidol, sef system newydd y Llywodraeth i gasglu gwybodaeth treth gan fusnesau o fewn y DU.

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

 “Fel awdurdod lleol, rydym yn falch o’r cyfraniad mae mentrau cymdeithasol yn ei wneud i’r economi a’r effaith y cânt ar fywydau trigolion.”

Yn dilyn cyfle i rwydweithio, siaradodd y cyflwynwyr am ystod o destunau gan gynnwys, sefydliadau cymorth, mentrau cymdeithasol a sefydliadau'r sector breifat sy'n gweithio gyda menter gymdeithasol. Cafwyd cyflwyniadau hefyd gan fentrau cymdeithasol megis Cwmni Buddiannau Cymunedol Beyond The Boundaries, sy’n cynnig lleoliadau gwaith a chyfleoedd hyfforddi i bobl ifanc gydag anghenion ychwanegol.  Dywedodd Jill Smith o Beyond the Boundaries:

 “Gofynnwyd i mi siarad yn y digwyddiad i amlygu'r gwaith da mae mentrau cymdeithasol yn ei wneud yn Sir y Fflint. Mae’r sector menter gymdeithasol yn Sir y Fflint yn fywiog iawn ac mae dyfodol disglair i ddod.”

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Glenn Bowen:

 “Roedd hi’n braf gweld cymaint o fentrau cymdeithasol yn rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd a chwilio am ffyrdd o fasnachu gyda'i gilydd. Mae’n amlwg bod gan y sector menter gymdeithasol yn Sir y Fflint ddyfodol disglair.”

 Networking event May.jpg

Chwith i’r dde Martin Downes - UnLtd, Neil Ayling – Cyngor Sir y Fflint, Harriet Pugh - Tempo, Carol Williams – Busnes Cymru, Mike Dodd - Cyngor Sir y Fflint, Jill Smith – Beyond the Boundaries, Simon Shaw - Eternal Community Media, Jacqui Cross – Canolfan Cydweithredol Cymru, Glenn Bowen – Canolfan Cydweithredol Cymru, Linzi Jones – Cymunedau Digidol Cymru, Marcus Fair – Eternal Community Media, Deian ap Rhisiart – Cymunedau Digidol Cymru