Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn barod am haf llawn hwyl

Published: 22/05/2019

Mae cynlluniau chwarae Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer haf arall llawn hwyl.

Bydd y cynlluniau sydd wedi bodoli ers 1996 yn cael eu rhedeg gan Dîm Datblygu Chwarae y Cyngor mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned lleol, Urdd Gobaith Cymru a Llywodraeth Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Yn Sir y Fflint rydym yn falch iawn o’n cynlluniau chwarae dros yr haf sy’n rhoi cyfleoedd i blant - yr amser, y gofod a'r caniatâd - i chwarae allan yn lleol, cwrdd â hen ffrindiau ac yn gyfle i wneud ffrindiau newydd.

“Yn 2018 fe gymerodd 901 o blant ran yn y cynlluniau chwarae wnaeth gymryd lle trwy gydol y Sir ac unwaith eto roeddent yn llwyddiant ysgubol.”

Ar gyfer yr haf hwn bydd cyfanswm o 56 lleoliad, un ai’n foreau neu brynhawniau ar draws y Sir ar gyfer 3,4,5 neu 6 wythnos o wyliau'r haf. Mae hyn yn cyfateb i 1,100 sesiwn chwarae neu 2,200 o oriau chwarae. 

Mae’r sesiynau ar gyfer plant rhwng 5 a 12 oed a hyd at 15 oed i blant ag anableddau. 

Mae croeso i blant iau fynychu gyda rhiant, nain neu daid neu ofalwr.  

Yn gyffredinol nid oes angen cofrestru o flaen llaw ar gyfer y cynllun ar wahân i’r canlynol:

  • ‘Quayplay’, Parc Canolog Cei Connah i blant 5 i 11 oed yn unig (5 - 15 oed ar gyfer plant ag anableddau yn mynychu’r Cynllun Cyfeillio)
  • Holl blant 5 i 15 oed sydd yn mynychu trwy’r Cynllun Cyfeillio (ac i fyny at 25 oed os yw pobl ifanc ag anableddau yn wirfoddolwyr ar y safle)
  • Yr holl blant sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Rhannu Eich Cinio. 

Yn 2019, mae 900 o lefydd a gefnogir i blant ag anableddau trwy ein Cynllun Cyfeillio a 50 o sesiynau Kick for Kids (Cymru) mewn 26 o’n safleoedd cynlluniau chwarae.

Ategodd y Cynghorydd Roberts:

“Bydd tri chynllun chwarae cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Croes Atti, Ysgol Bro Carmel ac Ysgol Maes Garmon am 6 wythnos yn 2019. Cofrestrodd 390 o blant ar ein cynlluniau chwarae cyfrwng Cymraeg yr haf diwethaf yn 2018 ac mae’n rhan bwysig o’n Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg bod plant yn cael y cyfle i gael mynediad i gynlluniau chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg.”  

Am ragor o fanylion cysylltwch â Thîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint ar 01352 704155, e-bost Janet.Roberts2@flintshire.gov.uk