Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Timau Maethu yn mynd yr ail filltir ar gyfer maethu

Published: 24/05/2019

Mae timau maethu ar draws Gogledd Cymru wedi bod yn cymryd rhan mewn teithiau cerdded elusennol fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth 2019.

O daith gerdded arfordir Ynys Môn yr holl ffordd i ffin Swydd Caer, mae timau maethu awdurdod lleol o Ynys Môn, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam wedi bod yn cymryd rhan mewn teithiau cerdded noddedig o amgylch tirnodau lleol i godi ymwybyddiaeth am faethu a chodi arian ar gyfer Y Rhwydwaith Maethu, yr elusen maethu cenedlaethol a chymdeithasau gofal maeth lleol.  

Mae Aelodau o Dîm Maethu Sir y Fflint wedi cerdded millir ar gyfer pob diwrnod o’r Penwythnos Gofal Maeth.  O Moel Famau i Loggerheads, Parc Gwepra a Chastell y Fflint, o Lannau Dyfrdwy ar hyd Lôn Werdd y Mileniwm Caer.  Roedd gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth a phlant wedi ymuno â nhw ar hyd y ffordd.  

Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae yna blant lleol sydd wedi cael dechrau anodd mewn bywyd.   Helpu’r plant hynny i gymryd camau bach ac rydym yno bob cam o’r ffordd gyda’n gofalwyr maeth. 

“Rydym angen mwy o ofalwyr maeth yn yr ardal leol.  Nid yw plant yn dymuno symud i ffwrdd oddi wrth bopeth, gadael eu ffrindiau a gorfod symud ysgolion. Mae maethu gyda’ch awdurdod lleol yn golygu cadw plant yn lleol ac mae yna dîm mawr i’ch cefnogi, gerllaw.  Mae oddeutu wyth o ofalwyr maeth yn ymddeol o faethu bob blwyddyn.  Rydym angen mwy o bobl leol i gymryd eu cam cyntaf mewn maethu.”

I roi rhodd i’r Rhwydwaith Maethu, ewch i justgiving.com/fundraising/maethumile.

I gael mwy o wybodaeth ar ddod yn ofalwr maeth, ewch i northwalesfostering.gov.uk.

Flintshire Foster Carers Wepre Park.JPG     

Gofalwyr Maeth Sir y Fflint - Parc Gwepra

Flintshire Social Services Teams Walk to Flint Castle.JPG

Tîm Gwasanaethau Cymdeithasol yn cerdded
i Gastell y Fflint