Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned – Broughton Hall Road, Brychdyn

Published: 06/06/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am arian gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon ynghylch diogelwch ffordd ar Broughton Hall Road, er budd y gymuned a phlant sy’n mynychu Ysgol Gynradd Brychdyn.

Mae’r cynllun, sydd bellach wedi’i gwblhau ac yn weithredol, wedi cyflwyno llawer o fuddion, yn cynnwys gwneud cerdded, beicio a defnyddio sgwter yn fwy hygyrch i ddisgyblion a’r gymuned ehangach.

Mae’r gwaith sydd wedi’i gwblhau yn cynnwys:

  • rhoi wyneb newydd ar Broughton Hall Road;

  • parth 20mya sydd wedi’i reoli trwy osod twmpathau cyflymder sinwsoidaidd (sydd yn addas ar gyfer beiciau);

  • ymylon palmant isel a phalmant botymog wrth gyffyrdd;

  • twmpathau top fflat wrth groesfannau sebra presennol;

  • cyffordd wedi’i chodi yn Parkfield Road/Broughton Hall Road;

  • triniaeth ffordd ymyl cymysg yn Wynnstay Road;

  • cyrbiau uwch yng nghyffordd Co-op a gosod bolardiau i atal pobl rhag parcio ar y palmant; a

  • ymestyn y cyfyngiadau aros i wella diogelwch ar gyfer cerddwyr a symudiad traffig.

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 

“Rwyf yn falch iawn bod Swyddogion Strydwedd Cyngor Sir y Fflint wedi gallu cael y cyllid grant hwn gan Lywodraeth Cymru, gan ei gyfuno â chyllid ail-wynebu i sicrhau cynllun gwell.

“Bydd y cynllun yn gwella diogelwch a hygyrchedd i blant sydd yn mynychu Ysgol Gynradd Brychdyn, yn ogystal â darparu budd i'r gymuned leol drwy ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau'r ardal.  Mae buddion pellach i’r cynllun hefyd gan ei fod yn ffurfio rhan o gynnig ehangach i weithredu darpariaeth beicio rhwng Yr Wyddgrug a Brychdyn ac ymlaen tuag at Sandycroft a Saltney.   

“Bydd yr elfen Teithio Llesol yn gwella diogelwch ac yn annog plant a theuluoedd i gerdded, beicio a defnyddio eu sgwteri i deithio i’r ysgol.

“Mae diogelwch yn fater enfawr o amgylch ysgolion, fel y mae llygredd aer o allyriadau cerbydau. Y gobaith yw y bydd y cynllun diogelwch yn annog mwy o deuluoedd i gerdded eu plant i’r ysgol.  Mae gallu treulio amser fel teulu yn rhywbeth gwerthfawr iawn a gellir treulio’r amseroedd gorau yn cerdded a sgwrsio fel teulu.”

Mae cyllid Llwybrau Mwy Diogel i'r Ysgol yn cefnogi datblygiadau isadeiledd o amgylch dalgylchoedd ysgolion a chlystyrau er mwyn ei gwneud yn haws i ddisgyblion gerdded, beicio neu i fynd ar sgwter i’r ysgol yn ddiogel. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd teithio llesol a’r buddion iechyd cadarnhaol a ddaw yn sgil defnyddio dulliau cynaliadwy o deithio ar gyfer siwrneiau byr bob dydd. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau mai cerdded a beicio yw’r dulliau mwyaf naturiol a chyffredin o deithio, er mwyn helpu pobl i wella eu hiechyd, i leihau’r allyriadau nwyon ty gwydr ac i fynd i’r afael â thlodi ac anfantais.

Ar yr un pryd mae Llywodraeth Cymru eisiau helpu i’r economi dyfu a chymryd camau i sicrhau twf economaidd cynaliadwy. Gellir gwneud hyn wrth i fwy o bobl ddechrau cerdded a beicio, gan y bydd yn lleihau tagfeydd, yn lleihau nifer y dyddiau a gollir oherwydd salwch a bydd yn cefnogi’r diwydiannau beicio a thwristiaeth yng Nghymru. 

Bydd Bil Teithio Llesol (Cymru) yn galluogi mwy o bobl i ddewis Teithio Llesol, fel dewis amgen i deithio â moduron. Felly, bydd mwy o bobl yn cael cyfle i gynnwys gweithgarwch corfforol yn eu bywydau o ddydd i ddydd. 

   Broughton Primary School 01.jpg            Broughton Primary School 02.jpg