Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Te Nadoligaidd y Cadeirydd
  		Published: 01/12/2014
Bydd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin YH, yn cynnal te 
prynhawn Nadoligaidd ddydd Sul 7 Rhagfyr yn Neuadd Bentref Mancot.
Cynhelir y te rhwng 2pm a 4pm ac mae’r tocynnau’n costio £3 yr un, gan gynnwys 
te/coffi, mins pei a chacen.  Bydd Cantorion Llwynegrin yn perfformio yno hefyd.
Meddai’r Cynghorydd Diskin:
“Mae hwn yn gyfle hyfryd i fynd i hwyl yr wyl.  Bydd masnachwyr lleol yno’n 
gwerthu eu nwyddau, felly dewch i fwynhau ychydig o siopa Nadolig gyda’ch 
ffrindiau a’ch teulu, neu dewch i brynu rhywbeth i chi’ch hun!  Mae’r cyfan at 
achos da i gefnogi fy elusennau sef Sefydliad Prydeinig y Galon a Chanolfan 
Ymcwhil Canser y Prostad.”
Am docynnau ffoniwch 01352 702151 neu ewch i Swyddfa Bost Mancot.