Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybr i fyd arlwyo

Published: 07/06/2019

Yn ddiweddar, mae Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint wedi cynnal cwrs "Llwybr” llwyddiannus arall, gan roi cyfle i bobl leol gamu i’r busnes arlwyo

Roedd y cwrs yn cynnwys hyfforddiant achrededig ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys diogelwch bwyd, cymorth cyntaf brys yn y gweithle, iechyd a diogelwch a sesiwn goginio ymarferol.

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

 “Mae hwn yn gyfle gwych arall i bobl leol ennill profiad a sgiliau a fydd yn eu cynorthwyo i ddod o hyd i waith yn y busnes arlwyo.  Mae’n esiampl wych o weithio mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint a Can Cook.  Nid yn unig mae’r cyfranogwyr wedi ennill cymwysterau gwerthfawr, gallant hefyd fanteisio ar y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael.”

Dywedodd un cyfranogwr, Paul Vaughan Williams:

“Am wythnos wych.  Rydym wedi ennill cymwysterau defnyddiol ac mae’r hyfforddwyr wedi bod yn haws sgwrsio â nhw ac barod eu cymwynas; mae atmosffer braf yn y grwp, ac rydym wedi cefnogi ein gilydd.  Mae Cymunedau Dros Waith a Mwy yn dîm grêt - anhygoel a dweud y gwir!  Byddaf yn sicr yn edrych i fynd ar rhagor o gyrsiau.”

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru i ddarparu mentora a chyngor un i un i’ch helpu i ddod o hyd i waith.

Mae Can Cook yn fenter gymdeithasol yn Lerpwl a gafodd ei sefydlu yn 2007 fel sefydliad bwyd sy’n gweithio gyda phobl sy’n byw yn Ne Lerpwl nad oes ganddynt sgiliau coginio sylfaenol.  

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth gyda Can Cook i ddarparu’r rhaglen lwyddiannus “Rhannu eich Cinio” a chaiff ei gynnal am yr ail flwyddyn.  Eleni, bydd y rhaglen yn darparu prydau bwyd am ddim dros gyfnod o chwe wythnos gwyliau’r haf i 27 o gynlluniau chwarae ar draws Sir Ddinbych.  

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar y rhaglen, cysylltwch â Janiene yng Nghymunedau am Waith a Mwy ar 01352 704434 neu anfonwch e-bost at: janiene.davies@flintshire.gov.uk.

Cookery 02.jpg           Cookery 03.jpg