Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun y Cyngor

Published: 17/06/2019

Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol gyhoeddi cynllun blynyddol, ac mae hwn yn cynnwys nodau ac amcanion y Cyngor ar gyfer 2019/20.

Mae’r cynllun eleni wedi’i ddiweddaru ac yn cynnwys saith blaenoriaeth, un yn fwy na’r llynedd – y flaenoriaeth ychwanegol yw ‘Cyngor Diogel a Glân’.  Y saith blaenoriaeth felly yw:

  • Cyngor Gofalgar 
  • Cyngor Uchelgeisiol
  • Cyngor sy’n Dysgu
  • Cyngor Gwyrdd
  • Cyngor sy’n Cysylltu
  • Cyngor sy'n Gwasanaethu
  • Cyngor Diogel a Glân 

O dan ‘Cyngor Gofalgar', mae ein blaenoriaethau’n cynnwys darparu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy gan barhau â’n rhaglen o adeiladu tai Cyngor a thai fforddiadwy newydd.  

Rydym yn gweithio i atal digartrefedd gan gynnig mwy o amrywiaeth o opsiynau tai. Byddwn yn parhau i weithio’n gadarnhaol tuag at ddiwallu targed Llywodraeth Cymru o uwchraddio’r holl dai cymdeithasol i Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020.  

Rydym wedi dal ati i lenwi’r bwlch rhwng gofal traddodiadol yn y cartref a gofal preswyl hirdymor drwy agor ein pedwerydd cynllun gofal ychwanegol yn Nhreffynnon ac ehangu cartref gofal Marleyfield House ym Mwcle.  Bydd gwasanaethau gofal cartref yn cael eu darparu i unigolion yn eu cartrefi eu hunain drwy weithio gyda mentrau cymdeithasol.  Agorwyd canolfan ddydd fodern newydd, Hwb Cyfle, er mwyn helpu preswylwyr sydd ag anableddau dysgu i fod yn fwy annibynnol.

Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint yw'r cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu rhaglen ‘Mockingbird’ arloesol y Rhwydwaith Maethu, a bydd y gwasanaeth yn parhau i brofi a gwerthuso’r model hwn.  

Bydd y Cyngor yn dal i weithio tuag at leihau tlodi ym mhob maes - lleihau tlodi bwyd, cynyddu nawdd ariannol er mwyn lleihau tlodi tanwydd, lleihau effeithiau tlodi ar blant a sicrhau mynediad cyfartal a pharod at gynnyrch glanweithiol mewn ysgolion.

Fel Cyngor Uchelgeisiol, byddwn yn mabwysiadu strategaeth i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor canol trefi.  Byddwn yn helpu cymunedau lleol i fod yn wydn ac yn hunangynhaliol gyda modelau gwasanaeth a fydd yn cynnal gwasanaethau cyhoeddus.

Ein huchelgeisiau fel Cyngor sy’n Dysgu yw cefnogi dysgwyr  3 -18 oed i wireddu eu potensial a chyflawni lefelau uchel o gyrhaeddiad addysgol.  Mae hyn yn bwysig i sicrhau bod y sgiliau cywir ganddynt i gael mynediad i gyfleoedd cyflogaeth modern.   Bydd ysgolion yn cael eu cynorthwyo â pharatoadau ar gyfer y newid i'r polisi addysgol cenedlaethol yn 2026.   Bydd newid i ddeddfwriaeth sy’n cefnogi pobl ifanc dros 25 sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei weithredu dros dair blynedd, gan ddechau ym mis Medi 2020 ac eto bydd ysgolion yn cael eu cefnogi yn hyn o beth.

Fel Cyngor Gwyrdd ymroddedig rydym yn anelu at gyfrifo ein hôl troed carbon hollgynhwysfawr gan gefnogi cynllun gweithredu i leihau allyriadau carbon a’r defnydd o blastig un defnydd.  Bydd cynllun lleol yn cael ei ddatblygu i gynyddu’r nifer o bwyntiau gwefru sydd ar gael ar draws y Sir.

Fel Cyngor sy’n Cysylltu rydym yn cefnogi cymunedau lleol i fod yn wydn ac yn hunangynhaliol.   Rydym yn cyfuno ein timau cyswllt cwsmeriaid yn un ganolfan gyswllt integredig.  Rydym hefyd wedi cyflwyno cyfrif hunanwasanaeth ar-lein digidol,  'Fy Nghyfrif'.

Bydd ein blaenoriaeth newydd, Cyngor Diogel a Glân, yn sicrhau ein bod yn mabwysiadu ymdriniaeth gyson a chydweithredol o ran mynd i’r afael â diogelwch cymunedol yn ogystal â chytuno ar safonau ar gyfer gwasanaethau amgylcheddol er mwyn rhoi sicrwydd ynghylch ein perfformiad ym meysydd gorfodaeth parcio, sbwriel a baw cwn.

Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr: 

“Mae Sir y Fflint yn dal i fod yn gyngor uchel ei berfformiad ac mae’r Cynllun hwn yn ein helpu ni i ganolbwyntio ar berfformiad mewn meysydd gwasanaeth blaenoriaeth. Mae’r Cynllun hefyd yn nodi rhai mentrau cyffrous ac arloesol"

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r Cynllun hwn yn nodi’r meysydd y byddwn yn rhoi blaenoriaeth iddynt er mwyn gwella bywydau preswylwyr.  Rydym yn parhau â rhai o’n blaenoriaethau, er enghraifft, ehangu darpariaeth cartrefi fforddiadwy i bobl sydd mewn angen; diogelu pobl rhag tlodi; galluogi pobl i fyw'n annibynnol a byw'n dda yn eu cartrefi gan osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty.”   

“Er gwaethaf cyni cyllidol parhaus, rydym fel  Cyngor yn dal yn ymrwymedig i, ac yn uchelgeisiol yn ein dyhead i barhau i ddarparu'r gorau ar gyfer ein cymunedau lleol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau: 

“Byddwn yn dal ati â'r gwaith o gefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial; gwella'r amgylchedd naturiol a hyrwyddo mynediad i fannau agored a mannau gwyrdd. Y peth pwysig yw bod Sir y Fflint yn gosod nodau uchelgeisiol ac yn parhau i gyrraedd a rhagori ar ei dargedau gan gynnal perfformiad cadarn bob blwyddyn."

Bydd Cynllun terfynol y Cyngor ar gael ar y wefan cyn diwedd mis Mehefin.