Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Monitro teledu cylch caeedig

Published: 14/06/2019

Roedd Cabinet Cyngor Sir y Fflint gefnogi uno’r swyddogaeth monitro teledu cylch caeedig gyda Wrecsam.

Mae’r system teledu cylch caeëdig yn cael ei monitro o ystafell fonitro ddiogel yn Rhan 3 Neuadd y Sir, yr Wyddgrug. Ychydig iawn o gyfalaf sydd wedi’i fuddsoddi yn yr ystafell rheoli teledu cylch caeëdig. Gan fod Rhan 3 i gael ei dymchwel yn fuan, byddai angen symud yr ystafell beth bynnag; ni allai aros ble mae hi. 

Mae nifer o ddewisiadau wedi’u hystyried, ond yr un mwyaf ffafriol a chost-effeithiol yw adleoli’r gwasanaeth i Wrecsam. Byddai hyn yn darparu gwasanaeth teledu cylch caeëdig ar y cyd sy’n cael ei reoli gan Wrecsam.

Mae cyfleuster Wrecsam yn Nhwr Rhydfudr yn fodern gyda digon o le i bartneriaid ychwanegol; mae lle i sgrin ar y wal, sy'n cael ei defnyddio gan dîm teledu cylch caeedig Sir y Fflint eisoes, ac mae desgiau yno'n barod. Bydd y dewis i uno gwasanaethau’n rhoi'r gwytnwch angenrheidiol i'r partneriaid ac yn cynorthwyo'r ddwy ochr i reoli costau'n fwy effeithiol. 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau: 

"Er nad yw darparu gwasanaeth teledu cylch caeëdig yn statudol, mae'n fantais sylweddol a chadarnhaol i gymunedau ac mae'n rhoi sicrwydd.

"Mae teledu cylch caeëdig yn cael ei weld mewn nifer o gymunedau fel cyfrannwr mawr at atal troseddu. Fodd bynnag, mae cynnal cyfleuster yn ddrud ac mae angen ystyried arbedion maint mewn unrhyw fodel gwasanaeth yn y dyfodol. Mae darparu gwasanaethau teledu cylch caeëdig ar y cyd trwy Wrecsam yn cael ei gyfrif yn beth cadarnhaol i ddangos ein bod yn cydweithio, i rannu costau a sicrhau gwasanaeth cynaliadwy."