Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant Sir y Fflint

Published: 14/06/2019

Mae gan Sir y Fflint Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant cynhwysfawr sy’n ystyried:

i) darpariaeth gofal plant yn Sir y Fflint: gan gynnwys y math o ddarpariaethau, lleoliad, costau, lleoedd sydd ar gael, dewis; a

ii) bylchau mewn gofal plant, gan gynnwys: dewis lleoliad, rhwystrau i dderbyn y ddarpariaeth, lleoedd ddim ar gael.

Mae nifer o rieni angen cymorth â’u dewisiadau gofal plant ac eisiau eu sicrhau mai’r dewis hwnnw yw’r gorau ar gyfer eu plentyn a’r teulu. Mae gofal plant yn darparu buddion cymdeithasol, economaidd ac academaidd i blant a rhieni sy'n para am lawer o amser. Gall dod o hyd i ofal plant lle mae gan blant gefnogaeth, lle maent yn cael eu hysgogi, eu hannog a lle maent yn gweld agweddau cadarnhaol osod sylfaen iddynt a chyfrannu at ganlyniadau deallusol a chymdeithasol.

Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

"Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o Adroddiad Cynnydd Blynyddol sydd wedi’i lunio i asesu cynnydd ochr yn ochr â'r camau gweithredu, a cherrig milltir sydd yn yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant. Y prif gryfderau yw bod gofal plant mewn lleoliad da ac yn ddibynadwy, yn diwallu anghenion y rhan fwyaf o rieni ac o ansawdd da.

"Yn gadarnhaol, mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant fel y sail i gynnig llwyddiannus i Lywodraeth Cymru am gyfalaf blynyddoedd cynnar. Mae 12 o gynlluniau ar gyfer 2019-21, yn ogystal â grant cynigion bach, sy'n gyfanswm o £5 miliwn dros 2 flynedd."