Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Published: 17/06/2019

Adolygodd Cabinet Cyngor Sir y Fflint adroddiad drafft ar berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Hon yw trydedd flwyddyn y fformat newydd ar gyfer Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n cael ei baratoi o dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Yn ystod 2018/19 rydym wedi bod yn symleiddio gwasanaethau a chyflawni’r canlyniadau gorau o fewn cyfyngiadau’r gyllideb.  Mae prosesau a dulliau darparu gwasanaeth wedi’u hadolygu i sicrhau eu bod mor effeithiol ac effeithlon â phosibl, tra'n parhau i ddarparu canlyniadau o ansawdd da chefnogaeth i bobl Sir y Fflint.  Enghraifft o hyn yw’r rhaglen cynnydd i ddarparwyr sydd wedi ennill gwobrau, mae’r rhaglen yn gwella gofal sy’n canolbwyntio ar unigolion ac ansawdd gwasanaethau gofal yn Sir y Fflint.

Mae gan y Cyngor lawer i'w ddathlu o ran y gwaith a wnaed i hyrwyddo a gwella lles pobl yn y Sir, gan gynnwys:

  • Ennill Gwobr Gofal Cymdeithasol Cymru am ein gwaith yn gwella ansawdd bywyd pobl hyn sy’n byw mewn cartrefi gofal.  Derbyn gwobr  am ‘ganlyniadau rhagorol ar gyfer pobl o bob oed drwy fuddsoddi mewn hyfforddiant a datblygiad ar gyfer staff'. 
  • Cyfrannu at ddatblygiad protocol hunan-esgeulustod Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, a gymeradwywyd yn helaeth yn y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd.
  • Derbyn gwobr am ein Canolfan Cymorth Cynnar gan Bartneriaethau sy’n canolbwyntio ar y Broblem Heddlu Gogledd Cymru.
  • Derbyn cydnabyddiaeth gan Gomisiynydd Pobl Hyn am greu’r gymuned gyntaf sy’n gyfeillgar i oedran yng Ngogledd Cymru yn Coed-llai a Phontblyddyn.
  • Cyflwyno Menter Cymorth Cymunedol ar gyfer pobl sy’n byw gydag anableddau, gwasanaeth arloesol newydd sy’n arddangos ein bod yn canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar.  
  • Lansio Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru
  • Agorodd Cynllun Gofal Ychwanegol Llys Raddington ei ddrysau yn y Fflint.
  • Cynlluniau i ddatblygu cynllun arall yn Nhreffynnon, o'r enw Plas yr Ywen, ar y gweill.  
  • Buddsoddi mewn cyfleuster preswyl 32 gwely newydd ger cartref gofal preswyl Marleyfield House ar gyfer pobl hyn ym Mwcle.
  • Buddsoddi yn yr Hwb Cyfle, canolfan ddydd newydd yn Queensferry ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu.

Dywedodd Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae’r adroddiad cynhwysfawr yma’n gosod sefyllfa gadarnhaol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yn Sir y Fflint ac yn dangos er gwaethaf y pwysau ar wasanaethau, mae ein staff yn parhau i ddarparu gwasanaethau ardderchog i gefnogi’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn yn y sir.  Mae’r adroddiad hefyd yn nodi rhaglen lawn o welliannau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant, er mwyn ymateb i anghenion yn y dyfodol ac i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cadw eu henw da cadarnhaol”.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint:

“Mae hwn yn adroddiad ardderchog ac yn asesiad teg o'n perfformiad fel gwasanaeth y llynedd. Mae’n braf gweld bod gwaith da wedi cael ei gyflawni yn gyffredinol.   Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon, a byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd i wella, yn enwedig yn ystod cyfnod economaidd mor heriol sydd hefyd yn arwain at alw cynyddol ar ein gwasanaethau."